Potosí

Oddi ar Wicipedia
Potosí
Mathdinas, dinas fawr, ardal drefol Edit this on Wikidata
Poblogaeth189,652 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSan Luis Potosí, Calama, Cuzco Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPotosí Department Edit this on Wikidata
SirPotosí Municipality Edit this on Wikidata
GwladBaner Bolifia Bolifia
Arwynebedd118.218 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,070 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19.5892°S 65.7533°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Dinas yn rhan ddeheuol Bolifia yw Potosí. Saif yn nhalaith Tomás Frías, 4,090 medr uwch lefel y môr, ac mae'n hawlio mai hi yw dinas uchaf y byd. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 143,148.

Datblygodd o ddinas wedi i arian gael ei ddarganfod ym mynydd y Cerro Rico yn 1544. Sefydlwyd y ddinas ym mis Ebrill 1545 dan yr enw "Villa Imperial de Carlos V" gan Juan de Villarroel. Roedd y mwynglawdd yn cynhyrchu arian ar raddfa enfawr, ac erbyn 1672 roedd y boblogaeth wedi cyrraedd tua 200,000, a'r ddinas yn un o'r dinasoedd mwyaf a chyfoethocaf yn Ne America.

Yn ddiweddarach, dirywiodd sefyllfa'r ddinas, ac erbyn 1825 roedd y boblogaeth yn llai na 10,000, a'r cyflenwad o fwyn arian bron wedi dod i ben. Mae rhywfaint o fwyngloddio yn parhau, ond twristiaeth yw prif ffynhonnell incwm yn ddinas bellach. Yn 1987, dynododd UNESCO y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd.