Is-deyrnas Periw
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Is-Deyrnas Periw)
Rhan o Ymerodraeth Sbaen ar gyfandir America oedd Is-Deyrnas Periw (Sbaeneg: Virreinato del Perú). Fe'i ffurfiwyd yn dilyn concwest Periw yn 1532, ac am gyfnod roedd yn cynnwys rhan helaeth o De America.
Ffurfiwyd Is-deyrnas Granada Newydd o ran o Periw yn 1717, yn cynnwys Colombia, Ecuador a Panama, yna yn 1776 ffurfiwyd Is-deyrnas Río de la Plata o ran o Periw, yn cynnwys Ariannin, Paraguay ac Uruguay.