Gwlff Mexico
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwlff Mecsico)
Gwlff o Gefnfor Iwerydd yn Ngogledd America yw Gwlff Mexico (Saesneg: Gulf of Mexico, Sbaeneg: Golfo de México). Y gwledydd sy'n ffinio ar y gwlff yw Mexico (Yucatán, Campeche, Veracruz, Tamaulipas), yr Unol Daleithiau (o'r dwyrain i'r gorllewin: Florida, Alabama, Louisiana, Mississippi, Texas) a Cuba. Trwy Gulfor Yucatan mae'r Gwlff yn cysylltu a Môr y Caribî, a thrwy Gulfor Florida mae'n cysylltu a'r Iwerydd.
Y prif afonydd sy'n llifo i'r gwlff yw afon Mississippi, y Rio Grande a'r Río Grijalva. Porthladdoedd pwysig yw Tampa, New Orleans, Houston, Tampico, Veracruz a La Habana.