Santo Domingo
Oddi ar Wicipedia
Santo Domingo, enw llawn Santo Domingo de Guzmán, yw prifddinas Gweriniaeth Dominica. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,166,000. Llifa afon Ozama trwy'r ddinas.
Sefydlwyd y ddinas ar 4 Awst 1496 gan y llywodraethwr Sbaenaidd Don Bartolomé Colón. Hi yw'r ddinas hynaf ar gyfandir America a sefydlwyd gan Ewropeaid. O 1936 hyd 1961, ei henw swyddogol oedd Ciudad Trujillo, wedi ei henwi ar ôl yr unben Rafael Leónidas Trujillo. Adeiladwyd yr Eglwys Gadeiriol rhwng 1521 a 1540; hi yw'r eglwys hynaf yng Nghanolbarth America.