Canolbarth America

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canolbarth America

Mae Canolbarth America yn rhanbarth ddaearyddol ar gyfandir yr Amerig sy'n gorwedd rhwng rhan ogleddol Gogledd America a De America. Mae'n gorwedd rhwng ffin ogleddol Gwatemala a ffin ogledd-orllewinol Columbia ac yn cynnwys tua 596,000 km² (230,000 milltir sgwâr) o dir. Mae'r tywydd yn drofaol ac mae'r rhanbarth yn dioddef corwyntoedd cryf weithiau.

Mae Canolbarth America yn cynnwys, o'r gogledd i'r de:

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Canolbarth America yn rhanbarth fynyddig. Ceir nifer o losgfynyddoedd, yn cynnwys Tajumulco sy'n codi i 4210m (13,846'). Mae ei hardaloedd arfordirol yn ffrwythlon a thyfir nifer o gnydau, er enghraifft bananas, coffi a coco. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion o dras gymysg Ewropeiaidd a brodorol.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn ymddangosiad yr Ewropeiaid cyntaf bu rhannau o Ganolbarth America yn gartref i wareiddiaid brodorol hynod, er enhgraifft penrhyn Yucatan. Syrthiodd y tir i feddiant Sbaen (ac eithrio Belîs ac ambell fan arall). Yn gynnar yn y 19eg ganrif cafodd gwledydd y rhanbarth annibyniaeth ar Sbaen a ffurfiodd Costa Rica, El Salfador, Gwatemala, Hondwras a Nicaragwa Cynghrair Canolbarth America (neu 'Taleithiau Unedig Canolbarth America') (1823 - 1838). Yn 1960 ffurfiodd y gwledydd hyn Marchnad Gyffredin Canolbarth America.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Canolbarth America
yn Wiciadur.