Awstralasia

Oddi ar Wicipedia
Awstralasia
Enghraifft o'r canlynolrhanbarth Edit this on Wikidata
Rhan oOceania Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAwstralia, Seland Newydd, Melanesia Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolAustralasia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o'r byd yn dangos Awstralasia

Term amrywiol a ddefnyddir i ddisgrifio rhanbarth yn Oceania yw Awstralasia – mae fel arfer yn cyfeirio at Awstralia, Seland Newydd, ac ynysoedd cyfagos yn y Cefnfor Tawel.

Bathwyd y term gan Charles de Brosses yn Histoire des navigations aux terres australes (1756). Daw o'r gair Lladin am "i de Asia" a nododd Brosses y gwahaniaeth rhwng y rhanbarth â Pholynesia (i'r dwyrain) a de ddwyrain y Cefnfor Tawel (Magellanica); mae hefyd yn wahanol i Ficronesia (i'r gogledd ddwyrain).

Daearyddiaeth ddynol[golygu | golygu cod]

Yn ddaearwleidyddol, defnyddir Awstralasia weithiau fel term am Awstralia a Seland Newydd yn unig. Mae yna nifer o gyfundrefnau gydag enwau sydd wedi'u rhagddodi â "Y Gymdeithas Awstralasiaidd ar gyfer" (Australasian Society for) sydd wedi'u cyfyngu i Awstralia a Seland Newydd.

Baner Awstralasia am y Gemau Olympaidd

Yn y gorffennol, mae Awstralasia wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar gyfer timau chwaraeon cyfunol Awstralia/Seland Newydd. Mae enghreiffitau'n cynnwys tennis rhwng 1905 ac 1913, pan cyfunodd Awstralia a Seland Newydd eu goreuon i gystadlu yng Nghwpan Davis (ac ennillon nhw yn 1907, 1908, 1909 ac 1911), ac yng Ngemau Olympaidd 1908 ac 1912.

Yn gyffredinol mae anthroploegwyr, er yn anghytuno ar fanylion, yn cefnogi theorïau sy'n priodoli tarddiad de ddwyreiniol Asiaidd am frodorion ynysoedd Awstralasia ac isranbarthau cyfagos.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]