Coffi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffa coffi wedi eu rhostio.

Darganfyddiad coffi[golygu]

Chwedl Kaldi'r bugail[golygu]

Dywedir y cafodd coffi ei ddarganfod gan fynach yn yr wythfed ganrif. Roedd bugail o'r enw Kaldi yn bugeilio geifr ar wastatir uchel Jebel Sabor yn yr Yemen. Roedd y geifr yn sionc iawn yn llamu ac yn dawnsio drwy'r nos. Pan ddigwyddodd y pennaeth Shadhili heibio fe ofynodd pam oedd y geifr mor sionc. Dywedodd Kaldi eu bod wedi bod yn bwyta math o geirios coch oedd yn tyfu'n wyllt. Pan ddywedodd Shadhili y stori wrth fynach fe aeth i hela'r ceirios er mwyn gwneud arbrofiadau. Fe ddarganfu y mynach mai rhywbeth yn y garreg oedd yn cadw'r geifr yn effro. Ar ôl rhostio'r cerrig yn y ffwrn, roedd e'n medru eu malu a'u rhoi mewn dwr poeth i wneud diod. Roedd y mynaich yn yfed y ddiod hon er mwyn deffro i addoli yn nghanol y nos. Fe alwasant y ddiod yn quw-wa ( قوة ) gair Arabeg am nerth.

Tarddiad y gair "coffi"[golygu]

O'r gair Arabeg قوة quw-wa "nerth", y daeth y gair Arabeg قهوة qahwa 'coffi'. O'r gair hwn y daeth y Tyrceg kahveh, wedyn caffè yn Eidaleg. O hwn y daeth y gair Saesneg coffee a gafodd ei fenthyg i'r Gymraeg fel 'coffi'.

Planhigion coffi[golygu]

Llwyn neu brysgwydden o'r rhywogaeth COFFEA yw planhigyn coffi. O'r 60 planhigyn gwahanol mae yna ddau bwysig;- COFFEA ARABICA, planhigyn arabica a COFFEA CANEPHORA, planhigyn robusta. Mae gan y planhigyn flodau bychainh gwynion gyda 5 neu 6 phetal, yn debyg i'r siasmin. Fe fydd y ceirios yn dechrau'n wyrdd, wedyn fe drônt yn felyn ac yn goch. Mae dwy garreg yn y geiriosen wedi eu gwahanu gan rych. Hon yw'r ffäen goffi. Gellir gweld y dail, y blodau a'r ceirios ar y planhigyn ar yr un pryd.

Hanes coffi[golygu]

Blodau coffi

Yn y 15fed ganrif roedd y pererinion Mohametanaidd a oedd yn teithio i Feca yn dosbarthu coffi o'r Yemen ar draws Arabia. Cyn y 18fed ganrif nad oedd coffi yn cael ei yfed y tu allan i'r byd Arabaidd.

Yn 1680 fe hwyliodd morwyr Holandaidd o Moca (Al-Mukha) yn yr Yemen gyda phlanigion coffi i Sri Lanca, ymlaen i India, ac wedyn i wladfeydd Holandaidd Asia. O Djakarta yn Java fe dygodd morwyr Holandaidd blanhigion coffi gyda nhw yn ôl i'r Iseldiroedd lle y cânt eu ddiwyllio yn nhai gwydr gerddi llysieuol Amsterdam. Ar ddechrau'r 18fed ganrif, yr Iseldiroedd oedd yr unig wlad yn Ewrop i gynhyrchu coffi. Ymlaen i Ffrainc; pan gafodd planhigion coffi eu cynnig i Louis IV fe roddodd nhw o dan ofal llysieuydd gardd y brenin (Jardin du Roi; ers y chwyldro - Jardin des Plantes). Ym mis Mai 1723 fe hwyliodd capten Gabriel DeClieu i Martinique yn India'r Gorllewin gyda phlanhigion coffi. Roedd y fordaith yn llawn problemau. I ddechrau, roedd y morwyr Holandaidd am droi'n ôl, wedyn fe hwyliasant i mewn i stormydd. Ar ôl hynny roedd y tywydd mor dawel fel nad oedd gwynt i wthio'r llong ymlaen. Roedd dŵr yfed yn brin ac oedd DeClieu yn gorfod arllwys ei gyfran ddŵr ar y planhigion i'w cadw'n fyw. Er hynny, roedd y cynhaeaf yn llwyddiannus iawn ac fe aethant ymlaen i gynhyrchu coffi ar ynysoedd eraill y Caribï a'i allforio'n ôl i Ewrop. Yn 1727 aethant ymlaen i Frasil, cynhyrchydd coffi mwyaf y byd heddiw.

Lle mae coffi'n tyfu.[golygu]

Lle mae coffi'n tyfu'n naturiol[golygu]

Mae coffi'n tyfu'n naturiol yn Yemen ac mewn llain ar draws Affrica, o Somalia drwy Ethiopia, Cenia, Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, Congo hyd at Gabon a hefyd yn y Traeth Ifori a Liberia.

Lle mae coffi'n cael ei ddiwyllio[golygu]

Gellir diwyllio coffi yn y trofannau. Bydd y rhan fwyaf o goffi'r byd yn cael ei gynhyrchu ym Mrasil, Fietnam a Cholumbia.

Arabica[golygu]

YosriKopi.jpg

Cynhyrchir coffi Arabica ym Mecsico, Guatemala, El Salvador, Honduras, Nicaragua, Costa Rica, Jamaica, Colombia, Feneswela, Ecuador, Perŵ, Brasil, Cenia, Ethiopia, India, Sri Lanca, Indonesia, Papwa Gini Newydd a'r Philipinau.

Robusta[golygu]

neu Goffi'r Congo

Cynhyrchir coffi Robusta ym Mrasil, y Traeth Ifori, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, Iwganda, Simbabwe, Madagascar, Yemen, India, Indonesia a'r Philipinau.

Liberia[golygu]

Cynhyrchir coffi Liberia yn Liberia ond ni chynhyrchir llawer iawn ohono.

Sut mae coffi'n cael ei gynhyrchu.[golygu]

Echdyniad y ffa[golygu]

Dull gwlyb[golygu]

Fel hyn y bydd y coffi gorau yn cael ei baratoi. Cânt y ceorios eu trochi mewn basnau o ddŵr a'u gadael i chwyddo drwy'r nos. Wedyn, cânt y mwydion eu gwahanu ac ar ôl hynny fe gânt eu gadael i'r ffa eplesu, a'u golchi wedyn gyda llawer o ddŵr.

Dull sych[golygu]

Dyfnyddir y dull hwn ym Mrasil ac yn Affrica lle mae dŵr yn brin. Taenir y ceirios am bythefnos ar arwynebedd mawr o goncrit neu ar ddaear wedi ei churo'n galed nes bydd y mwydion yn sychu yn yr haul.

Rhostio'r ffa[golygu]

Cyn rhostio mae ffa coffi yn wyrdd. Fel hyn y cânt eu hallforio neu eu mewnforio. Mae'r coffi gwyrdd yn cael ei rostio wrth eu cynhesu'n raddol hyd at 220°C. Wrth golli dŵr fe fydd y ffäen yn chwyddo. Rhaid oeri'r ffa yn syth, neu fe losgant.

Amrywiaethau o goffi[golygu]

Arabica a Robusta[golygu]

Mae yna ddau brif rywogaeth o goffi. Arabica, a Robusta (Coffi'r Congo). Mae blas cryfach ar robusta ac mae ynddo ddwy waith gymaint o gaffein a cholesterol.

Coffi enydus[golygu]

Mae coffi enydus yn gyfleus iawn ac er bod y blas ddim cystal, mae'n boblogaidd iawn ym Mhrydain. Nid oes cymaint o gaffein ynddo. Heddiw mae coffi enydus wedi ei sychrewi, hynny yw, dihydradu wrth ei rewi mewn gwactod.

Coffi wedi ei ddigaffeineiddio[golygu]

Mae rhai sydd am osgoi caffein yn yfed coffi wedi ei ddigaffeineiddio. Gellir trin y ffa coffi gwyrddion gyda thoddydd hydrocarbon wedi ei glorineiddio. Yn diweddarach fe ddefnyddir carbon deuocsid o dan wasgedd mawr. Mae'r dull hwn ddim yn gadael blas toddydd ar y coffi. Gan fod y broses o ddigaffeineiddio yn gwanhau blas y coffi, fe ddefnyddir robusta fel arfer oherwydd bod blas cryfach arno.

Nid yw coffi wedi ei ddigaffeineiddio ddim yn well i'r galon gan ei fod yn cael ei wneud gyda ffa robusta sy'n cynnwys llawer mwy o golesterol. Nid yw coffi wedi ei ddigaffeineiddio yn hollol rhydd o gaffein ychwaith.

Yn lle coffi[golygu]

Yn lle coffi gellir rhostio gwreiddiau ysgall y meirch a'u malu.

Mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid dangos yn glir ar y pecyn bod rhywbeth arall heblaw coffi ynddo.

(Er mwyn rhagor o wybodaeth ewch i'r Geirfa coffi

Masnach deg[golygu]

Label "MASNACH DEG"

Cafodd y label Masnach Deg ei greu yn yr Iseldiroedd yn yr '80au.
Fe ddefnyddioddMax Havelaar y label yn gyntaf ar goffi o Fexico yn 1986 i ddangos fod y coffi yn cyfateb i safonau rhyngwladol masnach deg.

Malwr coffi[golygu]

Malwr coffi

Dyma falwr traddodiadol coffi.
Wrth arllwys ffa coffi wedi eu rhostio i mewn i'r corn a throi'r ddolen, fe fydd dant yn eu malu. Fe fydd y coffi wedi malu yn cwympo i'r drâr islaw.
Rhaid peidio gadael coffi yn y malwr dros nos gan fydd e'n amsugno dŵr a difetha'r blas.

Potiau a pheiriannau coffi[golygu]

Ibric / Coffi Twrcaidd[golygu]

Ibric

Yn ôl pob tebyg, hwn ydy'r dull mwya hynafol o wneud coffi. Mae Ibric (o'r Arabeg ibrik = pot coffi) yn debyg i sospan fach neu phiser prês gyda gwaelod wastad a dolen hir. Mae'n draddodiadol i yfed coffi Twrcaidd mewn powlen fach yn hytrach na chwpan. Er mwyn gwneud coffi Twrcaidd mae rhaid malu'r coffi'n fân fel blawd. Rhoddir dwy lwyaid o siwgwr yn ngwaelod yr ibric a'i lenwi â dŵr oer hyd at waelod y gwddf. Rhoddir dwy lwyaid o goffi i nofio ar ben y dŵr. Ni throi'r coffi, gadewir iddo nofio. Rhoddir yr ibric i boethi ar y tywod poeth ger môr y canoldir. Os nad yw hwn yn gyfleus, gosodir ef ar y stôf. Pan fydd y dŵr yn ddigon poeth bydd ewin yn codi yng ngwddf y pot. Gwylir e'n ofalus. Pan fydd yr ewin yn cyrraedd y top, codir yr ibric o'r gwres yn union. Ni adewir iddo ferwi drosodd. Troir y coffi gyda llwy nes bod yr ewin yn gostwng. Ail boethir yr ibric a gwneir yr un peth eto. Ail boethir ef am y trydydd gwaith ond ni throi'r coffi y tro hwn. Yn ôl rhai, mae rhaid poethi'r coffi pum gwaith, ond beth bynnag, ni throir ef y tro olaf. Gadweir yr ibric am funud er mwyn i'r gwehillion suddo i'r gwaelod ac arllwysir y coffi i'r cwpanau yn ofalus. Ni adewir y gweddillion arllwys i mewn i'r cwpanau. Gellir ychwanegu llaeth ond mae siwgwr ynddo'n barod.

Melior / Cafetière / Gwasg Ffrengig[golygu]

Melior

Gair Ffrangeg am bot coffi yw cafetière.
Cafodd ei ddyfeisio gan Saesnes o'r enw Elizabeth Dakin yn 1841, ond fe ymddangosodd gyntaf yn Ffrainc yn 1950 dan yr enw "Melior". Mae'r egwyddor yn debyg i goffi Twrcaidd ond bod hidlydd fel piston yn gwasgu'r gwehillion i waelod y pot. Fe fyddwch chi'n rhoi ffa coffi wedi malu yng ngwaelod y pot ac arllwys dŵr poeth arno, disgwyl rhyw dri neu bedwar munud, ei droi ychydyg gyda llwy, wedyn gwthio'r piston yn araf i'r gwaelod.

Bialetti / Napolitane / Espresso pen stôf / Pot Moca[golygu]

Trawslun Bialetti

(Gall pot Moca, olygu percoladur hefyd.)

Bialetti

Gafodd hwn ei ddyfeisio gan Ffrancwr ond yn yr Eidal daeth e'n boblogaidd pan ymddangosodd yn 1933 dan yr enw "Bialetti". (Mae nhw'n boblogaidd yn Sbaen hefyd.)
Mae'r pot mewn dau rhan sy'n sgriwio at ei gilydd yn ddiddos. Fe fyddwch chi'n rhoi'r dŵr yn y rhan isod (A), gosod twmffat (B) gyda hidl ynddo. Rhoi'r coffi yn y twmffat a'i wasgu lawr gyda'r llwy. Sgriwio'r pot (C) yn dyn ar ei ben a'i osod ar y stôf. Pan fydd y dŵr yn dechrau berwi bydd gwasgedd yr ager yn gwthio'r dŵr poeth drwy'r coffi ac i mewn i'r pot uchod (C). Mae'r coffi yn barod yn syth. Er bod hwn yn gwneud diod neis iawn, dydy e ddim yn gwneud y coffi gorau gan fod y dŵr yn rhy boeth ac yn dueddol i ddifetha'r blas.

Cona[golygu]

Darllawydd gwactod (vacuum brewer) ydy hwn, wedi ei ddyfeisio gan Sais. Gan fod yr offeryn wedi wneud o wydr, does dim metal nag unrhyw ddefnydd arall i ymyrryd ar flas y coffi. Mae twmffat mawr o wydr gyda hidlydd yn ffitio yn ddiddos yn ngwddf pot gwydr sy'n hanner llawn o ddŵr oer. O dan y pot mae lamp fach sy'n llosgi gwirod methyl. Pan fydd yr awyr yn twymo ac yn chwyddo fe fydd e'n gwthio'r dŵr poeth drwy tiwben o wydr i'r twmffat uwchben. Os symudwch chi'r lamp ymaith fe fydd yr awyr yn oeri a chreu gwactod sy'n sugno'r dŵr poeth drwy'r coffi ar ben yr hidlydd. Mae'r system hwn yn sicrhau bod tymheredd y dŵr yn gywir. Pan fydd y coffi'n barod gellwch godi'r twmffat o'r pot a'i rhoi i'r naill ochr. Mae hwn yn gwneud coffi ardderchog. Dyma ffordd rhamantus o yfed coffi, gan fod y lamp fach yn debyg i gannwyll ar y bwrdd.

Percoladur[golygu]

(O'r gair Lladin percolare =hidlo) Mae'r coffi mewn hidl o ddur ddi-staen o dan ceuad y pot. Pan fydd y dŵr yn poethi fe fydd e'n codi drwy tiwben, rhedeg drwy'r hidl ac yn ôl i'r pot. Fe fydd hwn yn ail-godi a rhedeg drwy'r hidl ambell waith a chryfhau'r coffi yn raddol. Mae coffi percoladur yn lân iawn ond braidd yn wan.

Espresso[golygu]

Espresso

(Gair Eidaleg =gwasgu allan.) Mae pwmp yn gwasgu ergyd o ddŵr poeth drwy hidl bach yn llawn ffa coffi wedi malu, yn syth i'r cwpan sy wedi ei osod yn union o dan yr hidl.

Gwneud coffi da[golygu]

  • Peidiwch a defnyddio dŵr berwedig (mae coffi yn wahanol i de). Mae dŵr berwedig yn difetha'r blas. Dylai'r dŵr fod yn canu; 90 °C. Os ydy'r dŵr yn berwi rhaid gadael iddo oeri ychydig cyn gwneud y coffi.
  • Peidiwch a golchi eich pot coffi gyda'r llestri neu fydd blas sebon ar y coffi. Gwell golchi pot coffi mewn dŵr poeth a bicarbonad.
  • Peidiwch ac ail gysylltu eich pot coffi cyn ei rhoi i gadw. Rhaid cadw'r darnau yn wahan neu fyddyn nhw'n mynd i ddrewi a rhoi blas cas ar y coffi.
  • Am ychwaneg o awgrymiadau ewch i Sut i wneud coffi da.

Coffi yn yr Eidal.[golygu]

Os gofynwch chi am goffi mewn unrhyw wlad fe gewch chi'r coffi wedi wneud yn y ddull lleol os ddywedwch chi ddim mwy. Er enghraifft, pan ofynwch am goffi yn Nghymru fe fydd e'n cyrraedd mewn cwpan gyda llaeth a siwgwr. Os gofynwch am café yn Ffrainc, gewch chi goffi bach du espresso mewn demitasse. Os gofynwch am caffè neu caffè normale yn yr Eidal fe gewch chi espresso bach du hefyd, ond anarferol iawn fydd rhywun yn gofyn am goffi heb ddweud sut fyddyn nhw'n ei hoffi. Mae blas arbennig hefyd ar goffi Eidalaidd gan fod nhw'n dueddol i gymysgu 30% Robusta gyda 70% Arabica. Fe welwch chi goffi Eidalaidd Arabica pur ar werth hefyd. Gweler y rhestr coffi isod am syniadau.

Rhestr coffi[golygu]

(Er mwyn gweld rhagor ewch i'r Geirfa coffi.)

Mewn demitasse;-

Espresso
  • Espresso : (gair Eidaleg =wedi ei wasgu allan) coffi bach du
  • Café / Café express / Café noir : espresso yn Ffrangeg
  • Ristretto / Caffè stretto : espresso bach cryf
  • Macchiato freddo : espresso gyda diferyn o laeth oer
  • Macchiato caldo : espresso gyda diferyn o laeth poeth
  • Noisette : macchiato yn Ffrangeg
  • Corretto : espresso gyda diferyn o wirod ynddo
  • Corretto grappa : espresso gyda diferyn o grappa ynddo

Mewn cwpan;-

  • Coffi gwyn : gyda llaeth oer
  • Flat white : coffi gwyn yn Awstralia
  • Café au lait : gyda llaeth poeth
  • Café crème : espresso gyda hufen neu macchiato freddo
  • Grande (café) crème : café au lait
  • Caffè lungo : espresso gyda rhagor o ddŵr poeth wedi wasgu drwy'r hidlydd
  • Café long : caffè lungo yn Ffrangeg
  • Doppio : espresso ddwbwl
  • Americano : espresso gyda phiser o ddŵr poeth
  • Maroccino : espresso gyda llaeth poeth ewinnol
  • Cappuccino : espresso gyda llaeth poeth ewinnol a taenelliad o bowdwr coco (i'w yfed yn y bore yn unig)
  • Viennois : coffi a chantilly (hufen melys wedi corddi) ar ei ben.
  • Java : coffi gyda siocled poeth a chantilly (hufen melys wedi corddi) ar ei ben
  • Irish coffee : gyda wisgi a hufen
  • Café brûlot : gyda brandi a pherlysiau
  • Caffè con limone : coffi gyda lemon
  • Caffè in tazza fredda : coffi mewn cwpan oer
  • Caffè Hag : coffi wedi decaffeineiddio

Mewn cwpan mawr;-

  • Cappuccio : cappuccino mawr
  • Large cappuccino : cappuccio yn Awstralia

Mewn gwydr;-

  • Caffè alla romana : coffi mewn gwydr
  • Caffè (e) latte : llaeth poeth gyda espresso a llaeth ewinnol ar ei ben (i frecwast)
  • Caffè latte aromatizzato : espresso gyda sudd o unrhyw sawr, llaeth poeth a llaeth ewinnol ar ei ben
  • Flavoured coffee : caffè latte aromatizzato yn Saesneg
  • Caffè freddo shakerato : coffi oer wedi ei ysgwyd (gellir ychwanegu gwirod neu fanila)
  • Coffi rhew : gyda thriagl melyn a rhew
  • Frappé : coffi wedi corddi gyda hufen iâ a dŵr barlys gyda rhew (o wlad Groeg yn wreiddiol)
  • Salsa fanila : coffi gyda ychydig o sudd fanila, dŵr soda a rhew
  • Carameleon : Ychydig o lemonêd, ychydig o driagl caramel a choffi wedi decaffeineiddio gyda rhew
  • Liégeois : hufen iâ gyda choffi rhew arno a chantilly (hufen melys wedi corddi) ar ei ben
  • Granita di caffè con panna : coffi yn llawn naddion rhew gyda chantilly (hufen melus wedi corddi) ar ei ben

(Er mwyn gweld rhagor ewch i'r Geirfa coffi.)

Effaith coffi ar y corff[golygu]

  • Mae coffi'n cynnwys caffein sy'n cyffroi'r system nerfol canolog. Fe fydd e'n parhau'r dygnedd wrth gadw'r teimlad blinedig yn ôl. Dydy e ddim yn gwella perfformiad corfforol ond mae e'n esmwytho gwaith sy'n angen cydweithrediad y corff. Ar y llaw arall, dydy e ddim yn dda i yfed gormod o goffi.
  • Byddwch yn ymwybodol fod robusta a choffi wedi decaffeineiddio yn cynnwys lefel uchel o golesterol.
  • Gall lwch coffi gwyrdd (ffa coffi heb eu rhostio) achosi'r fogfa ac alergedd y croen.
  • Er mwyn gwybod rhagor, ewch i'r erthygl "caffein".

Ffeithiau eraill[golygu]

  • Moca (Moka / Mocca) yw'r coffi gorau. Mae e'n cael ei allforio o Al-Mukha, porthladd masnachwyr coffi yn yr Yemen. Mae llawer o goffi Moca yn dod o Ethiopia.
  • Y coffi drytaf yw Kona o Hawaï a Blue Mountain o Jamaica.
  • Pobl y Ffindir sy'n yfed y mwyaf o goffi. Mae pob un yn yfed pum gwaith cymaint o goffi na'r Cymry.
  • Mae gwaddod coffi yn dda i'r ardd ac yn cadw'r malwod i ffwrdd.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Wicillyfrau
Mae gan Wicilyfrau gwerslyfr neu lawlyfr ar y pwnc yma:


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am coffi
yn Wiciadur.