San José, Costa Rica
Oddi ar Wicipedia
San José yw prifddinas Costa Rica. Saif yng nghanolbarth y wlad, 1170 medr uwch lefel y môr. Roedd y boblogaeth yn 2000 yn 329,000, wedi cynyddu o 87,000 yn 1950.
Ar ddechrau'r 17eg ganrif, pentref bychan oedd San José, a'r ddinas bwysicaf oedd Cartago. Tyfodd o 1737, yn wreiddiol fel Villa Nueva de la Boca del Monte del Valle de Abra, yn ddiweddarach San José.