Managua
Oddi ar Wicipedia
Managua (enw llawn: Leal Villa de Santiago de Managua) yw prifddinas a dinas fwyaf Nicaragua yng Nghanolbarth America. Saif ar lan ddeheuol Llyn Managua, ac mae'n ymestyn an 30 km ar hyd glan y llyn. Amcangyfrifir fod y boblogaeth yn 1,680,100.
Roedd sefydliad brodorol o'r enw Managuac ar y safle cyn i'r ddinas gael ei sefydlu yn 1819 fel 'Leal Villa de Santiago de Managua'. Yn 1885 daeth yn brifddinas Nicaragua. Dinistrwyd rhgannau healaeth o'r ddinas dan ddau ddaeargryn, un ym mis Mawrth 1931 ac un arall ar 23 Rhagfyr 1972, pan laddwyd tua 10,000 o'r trigolion. Yn 1979, dioddefodd y ddinas ddifrod pellach yn ystod rhyfel cartref Nicaragua.