Chihuahua
- Erthygl am y dalaith ym Mexico yw hon. Am ystyron eraill i'r enw, gweler Chihuahua (gwahaniaethu).
Un o 31 talaith ffederal Mexico, sy'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y wlad am y ffin ag yr Unol Daleithiau (UDA), yw Chihuahua. Mae ganddi arwynebedd o 244,938 km sgwar (94,571.1 milltir sgwar). Fe'i amgylchynnir gan daleithiau Sonora, Sinaloa, Durango a Coahuila ym Mexico ei hun a gan Texas a New Mexico dros y ffin i'r gogledd, yn UDA. Chihuahua yw'r dalaith fwyaf ym Mexico, ffaith sydd wedi ennill iddi'r llysenw "El Estado Grande" ('Y Dalaith Fawr').
Mae ei thirffurfiau amlwg yn cynnwys Anialwch Chihuahua, y Barranca del Cobre ('Canyon Copr') a'r Sierra Madre Occidental. Ceir nifer o fforestydd a hefyd wastadeddau eang (yn ardaloedd Casas Grandes, Cuauhtémoc a Parral).
Yn 2005, roedd 3.2 miliwn o drigolion yno. Y ddinas fwyaf yw Ciudad Juárez, ar y ffin ag UDA, gyda 1,301,452 o bobl. Chihuahua, gyda 748,518 o drigolion, yw prifddinas y dalaith.
Gwelwyd sawl brwydr rhwng y pobloedd Apache brodorol a'r Mecsicanwyr yn y dalaith yn y 19eg ganrif; lladdwyd Victorio a llawer o'i fand ger Tres Castillos yn 1880, er enghraifft. Bu gan Chihuahua rhan allweddol yn Chwyldro Mexico pan fu'n dyst i ymladdfeydd mawr rhwng y chwyldroadwyr dan Pancho Villa a'r fyddin ffederal.
Prif ddinasoedd a threfi [golygu]
- Camargo
- Chihuahua
- Ciudad Jiménez
- Ciudad Juárez
- Cuauhtémoc
- Delicias
- Guachochi
- Madera
- Nuevo Casas Grandes
- Ojinaga
- Parral
Dolenni allanol [golygu]
- (Sbaeneg) Gwefan llywodraeth y dalaith
|
|
||
|---|---|---|
| Aguascalientes · Baja California · Baja California Sur · Campeche · Chiapas · Chihuahua · Coahuila · Colima · Durango · Guanajuato · Guerrero · Hidalgo · Jalisco · Michoacán · Morelos · Nayarit · Nuevo León · Oaxaca · Puebla · Querétaro · Quintana Roo · San Luis Potosí · Sinaloa · Sonora · Tabasco · Talaith Mexico · Tamaulipas · Tlaxcala · Veracruz · Yucatán · Zacatecas | ||
| Distrito Federal | ||