Frida Kahlo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio


Frida Kahlo
Frida Kahlo, by Guillermo Kahlo.jpg
Frida Kahlo, gan Guillermo Kahlo
Byw 6 Gorffenaf, 1907 – 13 Mehefin, 1954
Cenedligrwydd Mecsicanaidd
Mudiad Symbolaeth, Swrealaeth, Celf Frodorol Fecsicanaidd

Roedd Magdalena del Carmen Frida Kahlo Calderón, (Coyoacán 6 Gorffennaf, 1907 – Coyoacán 13 Gorffennaf, 1954) Frida Kahlo yn baentwraig Fecsicanaidd, yn briod i'r arlunydd murluniau enwog Diego Rivera.

Dioddefodd salwch a damwain traffig gwael yn ifanc a effeithiodd yn ddifrifol arni am weddill ei hoes a chafodd 32 o driniaethiau llawfeddygol. [1] Bu fyw bywyd anghonfensiynol wrth gymharu ag arferion y cyfnod: bu'n ddeuryw (bisexual) ac roedd ei chariadon yn cynnwys Leon Trotsky. [2]

Yn bennaf roedd ei gwaith yn hunanfywgraffiadol ac yn aml yn mynegi ei dioddefaint personol. Peintiodd ryw 200 o luniau, y rhan fwyaf ohonynt yn hunanbortreadau yn cyfleu ei brwydr feunydd. Ddylanwadwyd Kahlo gan ei gŵr, y peintiwr adnabyddus Mecsicanaidd Diego Rivera. Roedd y ddau'n rhannu diddordeb yng nghelfyddyd werinol pobloedd brodorol Mecsico.

Ym 1939 arddangoswyd ei gwaith yn Ffrainc ar wahoddiad André Breton, a geisiodd ei darbwyllo bod ei gwaith yn swrrealaidd, ond mynnodd Kahlo nid oedd y gwaith yn adlewyrchu breuddwydion ond ei bywyd ei hun. Er iddi ennyn edmygydd peintwyr enwog a gwybodusion y cyfnod fel Pablo Picasso, Wassily Kandinsky a Marcel Duchamp roedd ei gwaith ond i ennill poblogrwydd a chydnabyddiaeth ryngwladol eang ar ôl ei marwolaeth.

Bywyd cynnar[golygu]

Roedd Frida Kahlo yn ferch i Guillermo Kahlo, ffotograffydd Almaeneg o dras Iddewig-Hwngareg ac ei ail wraig Matilde Calderón, Mecsicanwraig o dras Sbaeneg. [3][4] [4]

Ym 1904, tair blynedd cyn geni Frida Kahlo, roedd y teulu wedi mudo i ardal Coyoacán yn Ninas Mecsico, i'r Casa Azul (Tŷ Glas), 247 Calle Londres, a ddaeth yn enwog am fod yn gartref iddi ac sydd bellach yn amgueddfa.

La Casa Azul (Tŷ Glas), Coyoacán, Dinas Mecsico

Yn 6 oed cafodd Kahlo poliomyelitis, a oedd y cyntaf o restr hir o afiechydon a llawdriniaethau. Wedi gorfod aros yn ei gwely am 9 mis oherwydd y polio, cafodd Frida ei hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon er mwyn adfer ei hiechyd, yn arbennig ei choes de a oedd yn llawrer gwannach na'r chwith. Bu Frida yn gwneud chwaraeon a oedd yn anarferol i ferched y cyfnod fel peldroed a bocsio.

Serch hynny, roedd ei phroblemau corfforol a llawdriniaethau cyson yn achosi i Kahlo fethu mwynhau cwmni'r plant eraill o'i hamgylch a datblygu'n dra gwahanol. Mae amryw o'i lluniau a beintiodd yn oedolyn yn cyfleu unigrwydd ei phlentyndod, fel Cuatro habitantes de Ciudad de México (Pedwar dinesydd Dinas Mecsico), 1939,[5]yn dangos merch fach unig yn brathu ei gwefus gyda thristwch.

Ym 1922 cafodd fynediad i'r Escuela Nacional Preparatoria, sefydliad addysgol o fri a oedd newydd agor ei ddrysau i ferched. Roedd Frida Kahlo yn un o ddim ond 35 o ferched o ddwy fil o ddisgyblion. [6] . Yn yr ysgol cyfarfu â gwybodusion ac artistiaid Mecsicanaidd y dyfodol oedd yn cael eu hadnabod fel y Los Cachuchas am y capiau roeddent yn eu gwisgo. Yn griw gwrthryfelgar, buont yn pwyso dros ddiwygio’r system addysgiadol. [7]

Damwain a dechrau gyrfa beintio[golygu]

A 17 Medi, 1925 dioddefodd Frida ddamwain difrifol pan oedd y bws roedd hi'n teithio ynddo wedi taro tram. Fel canlyniad i'w hanafiadau erchyll roedd rhaid iddi gael dros 30 o lawdriniaethau dros weddill ei bywyd. Roedd yn aml mewn poen ac weithiau'n methu symud o'i gwely am gyfnodau hir o'i phlegid. [8]

Wrth wella o'i hanafiadau aeth ati i beintio'n fwy rheolaidd. Yn 1926 fe beintiodd ei hunanbortread cyntaf. Ynddo ge welir ei hunan-fyfyrio a oedd yn destun parhaus ei gwaith diweddarach. .[6]

Dechreuodd Frida Kahlo mynychu cylchoedd celfyddydol, gwleidyddol a deallusol a chyfarfu â nifer o gomiwnyddion gan gynnwys yr arlunydd Diego Rivera [9][7]

Priodas â Diego Rivera[golygu]

Frida Kahlo a Diego Rivera 1932

Priododd Diego Rivera yn 1929. Cawsant berthynas tymhestlog, yn hanes o gariad, casineb, tor-calondid, ysbrydoliaeth greadigol ac anturiaethau gyda chariadon eraill. Fe'u hysgarwyd ym 1939, dim ond i ail-briodi'r flwyddyn ganlynol. [10]

Fe alwyd y ddau yn 'yr eliffant a'r golomen', Diego'n enfawr a Frida'n fechan ac yn wân oherwydd ei salwch a'i hanafiadau. Oherwydd ei hanafiadau nid oedd yn bosib i Frida Kahlo gael plant, gwayw arall iddi. [11]

Yn gefnogwyr i'r comiwnyddion fe benderfynodd y cwpl symud i fyw dros y ffin yn yr Unol Daleithiau rhwng 1931 a 1934 i osgoi problemau gydag awdurdodau Mecsico.

Wrth ddychwelyd i Fecsico, cafodd Diego perthynas gyda Cristina, chwaer Frida Kahlo. Er iddo gael cariadon eraill tra oedd yn briod, fe effeithiwyd arni’n fawr pan glywodd am ei gŵr a'i chwaer ac fe waethygodd y berthynas rhyngddi â Diego. Dechreuodd hithau gael perthnasau rhywiol gyda dynion a merched y tu allan i'r broidas. [6]

Un o gariadon Frida oedd Leon Trotsky, arweinydd comiwnyddol oedd wedi ffoi i Fecsico er mwyn achub ei fywyd wrth i'w elyn pennaf Joseff Stalin cipio arweinyddiaeth yr Undeb Sofietaidd. Wedi i Trotsky gael ei lofruddio gan asiant Stalin fe arestiwyd Kahlo dan amheuaeth, ond fe'i rhyddhawyd yn fuan wedyn.

Block, Kahlo a Rivera

Yn dilyn yr ysgariad dioddefodd Frida Kahlo iselder ac fe ddechreuodd yfed yn ormodol i leddfu ei phoenau corfforol ac emosiynol. Ym 1939, blwyddyn yr ysgariad, peintiodd Las dos Fridas (Y dwy Frida), hunanbortread arall ond y tro hwn â dwy Frida, un Frida mewn gwisg Ewropeaidd a'r llall mewn gwisg draddodiadol Fecsicanaidd yn dangos ei chalon wedi'i thorri.

Ail-briododd Frida a Diego am yr eildro ym 1940 gan gytuno i fyw gyda'i gilydd, yn rhannu'r biliau ac yn cyd-weithio ond heb fyw fel cwpl. [12]

Enwogrwydd[golygu]

Ym 1939 fe arddangoswyd ei gwaith ym Mharis diolch eto i André Breton. Yn ystod ei harhosiad yn y ddinas ymddangosodd ar glawr blaen y cylchgrawn Vogue a chyfarfu â Pablo Picasso.

Arddangoswyd ei gwaith yn MOMA (Yr Amgueddfa Celf Fodern), Efrog Newydd, y Sefydliad Celf Gyfoes, Boston ac Amgueddfa Gelf Philadelphia.

Ym 1953 trefnodd Oriel Gelf Gyfoes Dinas Mecsico, arddangosfa fawr o'i gwaith i'w hanrhydeddu. Roedd ei chyflwr iechyd wedi gwaethygu ac fe'i chynghorwyd gan ei meddygon i beidio â mynychu agoriad yr arddangosfa. Serch hynny fe gyrhaeddodd Frida Kahlo ar wely mewn ambiwlans, ac fe osodwyd ei gwely yng nghanol yr oriel gyda Kahlo yn yfed ac yn mwynhau tan hwyr.

Yr un flwyddyn bu raid torri i ffwrdd ei choes o dan y pen-gli gan achosi iddi ddioddef llawer o boen a syrthio i iselder unwaith eto. Ceisiodd gyflawni hunanladdiad mwy nag unwaith. Ar ei darlun olaf ysgrifennodd y geiriau ' Viva La Vida' (Byw Bywyd) wrth ei llofnod. Bu farw ym 1954.

Arwres ffeministaidd[golygu]

Mae Frida Kahlo bellach wedi'i throi'n eicon neu gymeriad chwedlonol, ei steil arbennig a phersonoliaeth unigryw go iawn yn orgyffwrdd yn meddyliau llawer â'r ddelwedd yn ei lluniau. Roedd hi'n un o'r ychydig ferched y cyfnod i ennill enw yn y byd celfyddydol rhyngwladol, gan dorri rhydd o rôl draddodiadol merched ac yn herio hegemoni cymdeithas. Ac hyn oll wrth iddi ddioddef salwch ac anafiadau difrifol. Yn lle bod yn fodel i ddynion ei pheintio a'i darlunio mynegodd ei phersonoliaeth a'i phrofiadau o'i safbwynt ei hun gan gyfrannu at greu hunaniaeth ar gyfer merched cryf modern. [13]

Y Ffilm Frida[golygu]

Yn 2002 fe wnaethpwyd ffilm Hollywood llwyddiannus am ei bywyd. Fe enwebwyd am 8 Oscar yn cynnwys Salma Hayek, yn y prif rôl, ar gyfer actores orau'r flwyddyn. Mae'r ffilm bellach wedi ennill $56,298,474 trwy'r byd. [14] [15]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. "La vida de Frida Khalo". https://www.pbs.org/weta/fridakahlo/life/people_esp.html. 
  2. "La vida de Frida Khalo". https://www.pbs.org/weta/fridakahlo/life/people_esp.html. 
  3. El Corazón de Frida - Magdalena Carmen Frida Kahlo Y Calderón 1907-1954
  4. 4.0 4.1 Frida Kahlo: fantasía de un cuerpo herido. ISBN 9789688561164. http://books.google.es/books?id=aaHqCiOUcTMC&lpg=PP1&pg=PA114. 
  5. "Cuatro habitantes de Ciudad de México". http://www.fridakahlofans.com/c0210.html. 
  6. 6.0 6.1 6.2 Vidas de los grandes artistas del siglo XX. Frida Kahlo. ISBN 84-343-0882-7. 
  7. 7.0 7.1 Trayectoria biográfica y artística en Frida. Edición conmemorativa, p. 236.
  8. Frida: una biografía de Frida Kahlo. ISBN 978-968-131-684-6. http://books.google.com.mx/books?ei=H0iiTv74JMrKsQLh7MHDBQ&ct=result&hl=en&id=m5YEcBKBaGYC&dq=Kahlo+32+operaciones&q=+32+operaciones#search_anchor. 
  9. Frida Kahlo. ISBN 84-305-3640-X. 
  10. 101 mujeres en la historia de México. ISBN 978-970-810-328-2. http://www.google.com.mx/search?tbm=bks&tbo=1&hl=en&q=Diego+infiel&btnG=#sclient=psy-ab&hl=en&tbo=1&tbm=bks&source=hp&q=El+le+fue+infiel+muchas+veces%2C+la+m%C3%A1s+dolorosa+para+Frida+con+su+propia+hermana.+Esto+caus%C3%B3+su+divorcio+en+1939&pbx=1&oq=El+le+fue+infiel+muchas+veces%2C+la+m%C3%A1s+dolorosa+para+Frida+con+su+propia+hermana.+Esto+caus%C3%B3+su+divorcio+en+1939&aq=f&aqi=&aql=1&gs_sm=s&gs_upl=33065l33065l2l34181l1l0l0l0l0l0l0l0ll0l0&bav=on.2,or.r_gc.r_pw.,cf.osb&fp=55241c4679779cb1&biw=1366&bih=636. 
  11. Crítica feminista en la teoría del arte. ISBN 978-968-859-633-3. http://books.google.com.mx/books?id=EHPwGdoLLZMC&pg=PA339&dq=Kahlo+no+hijos+lesiones&hl=en&ei=WEmiTpmuGI-asgLYl9C_BQ&sa=X&oi=book_result&ct=result&resnum=4&ved=0CDgQ6AEwAw#v=onepage&q&f=false. 
    Frida Kahlo: una vida abierta. ISBN 968-36-6766-X. http://books.google.com.mx/books?id=vi-qZ2n3T60C&pg=PA165&dq=Kahlo+incapacidad+hijos&hl=es-419&ei=rUmiTrzAFMGrsQKkwqDBBQ&sa=X&oi=book_result&ct=result&resnum=1&ved=0CC4Q6AEwAA#v=onepage&q=Kahlo%20incapacidad%20hijos&f=false. 
  12. Das Blaue Haus. Die Welt de Frida Kahlo. ISBN 3-608-76279-5. 
  13. Mejía Moreno, Raúl (2006). El simbolismo en la obra de Frida Khalo, p. 84-97
  14. http://www.boxofficemojo.com/oscar/movies/?id=frida.htm
  15. http://www.boxofficemojo.com/movies/?id=frida.htm