Valparaíso
Oddi ar Wicipedia
Dinas a phorthladd pwysig yn Chile, De America, yw Valparaíso (/ˌvælpəˈraɪzoʊ/, Spanish: [balpaɾaˈiso]). Fe'i lleolir ar arfordir y Cefnfor Tawel 69.5 miles (111.8 km) i'r goledd-gorllewin o'r brifddinas, Santiago de Chile. Dyma ddinas ail fwyaf y wlad. Cafodd ei sefydlu gan y Sbaenwyr ym 1536. Mae wedi dioddef sawl daeargryn fawr yn ei hanes ac mae'n adnabyddus am ei heglwys gadeiriol.
Enwogion [golygu]
- Salvador Allende. Ganed y gwleidydd, a ddaeth yn arlywydd y wlad am gyfnod byr cyn cael ei ddymchwel gan y Cadfridog Augusto Pinochet gyda chymorth y CIA, yn Valparaíso ar 26 Gorffennaf 1908.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: