Augusto Pinochet
Oddi ar Wicipedia
Arlywydd Chile o 1973 i 1990 oedd Augusto José Ramón Pinochet Ugarte (ganwyd 25 Tachwedd, 1915 - 10 Rhagfyr, 2006). Daeth i rym yn dilyn coup milwrol yn erbyn llywodraeth Salvador Allende. Rheolodd Chile fel unben gyda chefnogaeth y lluoedd arfog a chydweithrediad llywodraeth yr Unol Daleithiau. Carcharwyd, arteithwyd, herwgipwyd a llofruddwyd nifer o wrthwynebwyr gwleidyddol yn ystod ei gyfnod fel arlywydd. Roedd yn gyfaill da i Margaret Thatcher.[1]