Minsk
Prifddinas a dinas fwyaf Belarws, ar lannau afonydd Svislach a Niamiha, yw Minsk (Belarwseg: Мінск, Менск; Rwseg: Минск). Minsk hefyd yw pencadlys Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS). Fel prifddinas y wlad, mae gan Minsk statws weinyddol arbennig ym Melarws a hi hefyd yw canolfan weinyddol voblast (talaith) Minsk a raion (dosbarth) Minsk. Mae ganddi boblogaeth o 1,814,700 (2007).
Mae'r cyfeiriadau cynharaf at Minsk yn dyddio o'r 11eg ganrif (1067). Yn 1242, daeth Minsk yn rhan o Ddugiaeth Fawr Lithwania, a derbyniodd ei breintiau trefol yn 1499. Yn 1569 daeth yn brifddinas Voivodaeth Minsk yng Nghymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania. Cafodd ei chipio gan Rwsia yn 1793, mewn canlyniad i Ail Raniad Gwlad Pwyl. O 1919 hyd 1991, Minsk oedd prifddinas SSR Byelorws.
Dolenni allanol[golygu]
- (Rwseg) Pwyllgor Gweithredol Dinas Minsk