Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner CGA
Gwledydd Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol.

Corff rhyngwladol yw Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS) (Rwsieg: Содружество Независимых Государств (СНГ) - Sodruzhestvo Nezavisimykh Gosudastv) sy'n hybu cysylltiadau rhwng 12 o'r 15 o wladwriaethau a oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd blaenorol. Nid yw'r gwledydd Baltaidd yn aelodau.

Cytunodd arweinyddion Rwsia, Belarws a'r Wcráin sefydlu'r CIS ar 8 Rhagfyr 1991 yn Belovezhskaya Pushcha ger Brest ym Melarws, ac felly daeth yr Undeb Sofietaidd i ben. Arwyddwyd y gytundeb gan yr aelod-wladwriaethau eraill ar 21 Rhagfyr 1991 (heblaw am Georgia, a ymunodd ym 1993).

Er nad oes fawr o bwer gan y Gymanwlad, mae hi'n bwysig serch hynny am ei bod yn cydlynu polisïau'r aelodau ym materion masnach, cyllid, y gyfraith ac amddiffyn. Un o'r materion pwysicaf i'r corff oedd sefydlu ardal masnach rydd yn 2005.

Aelodau


Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill