Bishkek
Oddi ar Wicipedia
| Bishkek | |
|---|---|
| Lleoliad yn Kyrgyzstan | |
| Gwlad | Kyrgyzstan |
| Ardal | Dinas annibynnol |
| Llywodraeth | |
| Maer | Isa Omurkulov |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 127 km² |
| Uchder | 800 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 762,308 (Cyfrifiad 1999) |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Gwefan | Llywodraeth y ddinas |
Prifddinas a dinas fwyaf Kyrgyzstan yng Nghanolbarth Asia yw Bishkek (Cirgiseg a Rwseg: Бишкек; gynt Pishpek a Frunze). Fe'i lleolir yng ngogledd y wlad ger y ffin â Kazakhstan. Mae ganddi boblogaeth o tua 1,250,000 (amcangyfrif 2007). Fe'i sefydlwyd ym 1825 fel caer Wsbecaidd. Cipiwyd y gaer gan y Rwsiaid ym 1862.