Sendai

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Jouzenji-dori, stryd enwog yn Sendai

Sendai (Japaneg: 仙台市, Sendai-shi) yw prif ddinas talaith Miyagi, Siapan, ac un o ddinasoedd fwyaf ardal Tohoku (yn y Gogledd-ddwyrain). Mae gan y ddinas boblogaeth o filiwn ac mae'n un o bedair ar ddeg o ddinasoedd neilltuedig Siapan. Sefydlwyd y ddinas ym 1600 gan y daimyo Date Masamune a chaiff y ddinas ei hadnabod gan ei ffug-enw "Dinas o Goed" (杜の都, Mori-no-miyako). Ceir tua 60 o goed zelkova ar Jouzenji Dori a Aoba Dori. Yn y gaeaf, addurnir y coed yma gyda channoedd o oleuadau mewn digwyddiad a elwir 'Pasiant y Lloergan', sydd yn dechrau ym mis Rhagfyr ac yn gorffen pan ddechreua'r flwyddyn newydd. Mae nifer o bobl yn ymweld â Sendai i weld 'Pasiant y Lloergan'.

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol