Dallas
Oddi ar Wicipedia
| Dallas | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Swydd Dallas, Swydd Collin, Swydd Denton, Swydd Rockwall, Swydd Kaufman a Texas | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | Texas |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor Dinas Dallas |
| Maer | Mike Rawlingsl |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 999.3 km² |
| Uchder | 131 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 1,197,816 (Cyfrifiad 2010) |
| Dwysedd Poblogaeth | 1358.2 /km2 |
| Metro | 6,371,773 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | CST (UTC-6) |
| Cod Post | 75201-75398 |
| Gwefan | http://www.dallascityhall.com |
Dinas yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau yw Dallas. Gyda phoblogaeth o 1,197,816 yn 2010, hi yw trydedd dinas Texas o ran poblogaeth, a'r nawfed yn yr Unol Daleithiau. Roedd poblogaeth ardal ddinesig Dallas-Fort Worth yn 6,145,037, y bedwaredd yn yr Unol Daleithiau o ran poblogaeth.
Sefydlwyd Dallas yn 1841, a chafodd statws dinas yn 1856. Y diwydiant olew yw sail economi'r ddinas, ond mae gan nifer o gwmnïau mawr eraill, megis Texas Instruments, eu pencadlys yma hefyd.
Ar 22 Tachwedd 1963, saethwyd yr Arlywydd John F. Kennedy yn farw pan oedd ar ymweliad a Dallas.
Gefeilldrefi Dallas [golygu]
| Gwlad | Dinas |
|---|---|
| Taipei | |
| Dijon | |
| Monterrey | |
| Riga | |
| Saratov | |
| Taipei |
Dolenni Allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan Dinas Dallas