Omsk
Dinas fawr a phorthladd pwysig yn Siberia, Rwsia yw Omsk (Rwseg: Омск). Gyda phoblogaeth o 1,129,281, Omsk yw dinas ail fwyaf Siberia, ar ôl Novosibirsk, a'r seithfed fwyaf yn Rwsia gyfan. Fe'i lleolir 2,700 km (1,700 milltir) i'r dwyrain o Foscow yn ne-orllewin Siberia ac mae'n brifddinas Omsk Oblast.
Gorwedd ar gymer afonydd Irtysh a Om ar lwybr y Rheilffordd Traws-Siberia. Mae'n ganolfan ddiwydiannol a chroesffordd cludiant o bwys.
Yng nghyfnod Ymerodraeth Rwsia, roedd Omsk yn sedd Llywodraethwr Cyffredinol Gorllewin Siberia, ac yn nes ymlaen yn sedd Llywodraethwr Cyffredinol y Steppes. Am gyfnod byr yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia yn 1918–1919, cafodd ei chyhoeddi yn brifddinas Rwsia a diogelwyd cronfa aur y wlad yno.
Omsk yw canolfan weinyddol Cossacks Siberia, a cheir cadeirlan Esgob Omsk a Tara a sedd imam Siberia yno hefyd.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Mikhail Vrubel
- Eglwys Gadeiriol Sant Niclas
- Theatr Drama Omsk
[golygu] Enwogion
- Mikhail Vrubel (1856-1910), arlunydd
- Yuri Titov (g. 1935), athletwr
[golygu] Dolenni allanol
- (Rwseg) Gwefan Dinas Omsk