Harare
Oddi ar Wicipedia
Harare, hen enw Salisbury, yw prifddinas Zimbabwe. Mae'r boblogaeth tua 1,600,000, gyda 2,800,000 yn yr ardal ddinesig. Hi yw dinas fwyaf Zimbabwe a'i chanolfan fasnachol fwyaf. Saif 1483 medr (4865 troedfedd) uwch lefel y môr.
Sefydlwyd y ddinas, fel "Salisbury", gan garfan o ymsefydlwyr gwynion a drefnwyd gan Cecil Rhodes yn 1890. Roedd yn brifddinas Ffederasiwn Rhodesia a Nyasaland o 1953 hyd 1963, yna'n brifddinas De Rhodesia. Newidiwyd yr enw i Harare yn 1980, gan gymeryd ei henw o enw un o benaethiaid y Shona, Neharawa.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys gadeiriol
- Hotel Meikles
- Mbare Musika (marchnad)
- Stadiwm Rufaro
- Ysbyty Parirenyatwa
Enwogion [golygu]
- Syr Roy Welensky (1907-1991), gwleidydd
- Byron Black (g. 1969), chwaraewr tenis
- Grant Flower (g. 1970), chwaraewr criced