Simbabwe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Republic of Zimbawe
Gweriniaeth Simbabwe
Baner Simbabwe Arfbais Simbabwe
Baner Arfbais
Arwyddair: Unity, freedom, work
(Saesneg: Undod, rhyddid, gwaith)
Anthem: Simudzai Mureza Wedu Simudzai Mureza Wedu weZimbabwe (Shona) neu Kalibusiswe Ilizwe leZimbabwe (Ndebele)
Lleoliad Simbabwe
Prifddinas Harare
Dinas fwyaf Harare
Iaith / Ieithoedd swyddogol 16 gan gynnwys Saesneg, Shona a Ndebele
Llywodraeth Unbennaeth
- Arlywydd Robert Mugabe
- Is-arlywydd Joice Mujuru
Annibyniaeth
- Datganwyd

- Cydnabuwyd
o'r Deyrnas Unedig
(fel Rhodesia) 11 Tachwedd 1965
(fel Simbabwe) 18 Ebrill 1980
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
390,757 km² (60fed)
1%
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2013
 - Cyfrifiad 2012
 - Dwysedd
 
13,182,908 (72ain)
12,973,808
34/km² (181ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2013
$7.731 biliwn (94ain)
$589 (129ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2013) 0.397 (173ain) – isel
Arian cyfred Doler yr Unol Daleithiau ac eraill1 (ZDD)
Cylchfa amser
 - Haf
CAT (UTC+2)
CAT (UTC+2)
Côd ISO y wlad .zw
Côd ffôn +263
1Defnyddiwyd Doler Simbabwe hyd 2009

Gwlad yn Affrica Ddeheuol yw Gweriniaeth Simbabwe neu Simbabwe (hefyd Simbabwe). Lleolir y wlad rhwng afonydd Zambezi a Limpopo. Mae'n ffinio â De Affrica i'r de, â Botswana i'r gorllewin, â Zambia i'r gogledd ac â Moçambique i'r dwyrain ac nid oes ganddi fynediad i'r môr. Harare yw prifddinas y wlad. Cyn annibyniaeth roedd Simbabwe (Rhodesia) yn wladfa Brydeinig.

Hanes[golygu]

Rhan o furiau Simbabwe Fawr
Prif erthygl: Hanes Simbabwe.

Roedd Simbabwe yn ganolfan i ymerodraeth frodorol yn ne Affrica a'i phrifddinas yn Simbabwe Fawr. Mashona oedd y trigolion. Cawsant eu gorchfygu gan y Matabele. Cipiwyd tir y Matabele a'r Mashona gan yr anturiaethwr imperialaidd o Sais Cecil Rhodes a'r Cwmni Prydeinig De Affrica yn 1895 a chafodd ei henwi'n Rhodesia ar ei ôl.

Datganodd Ian Smith, prif weinidog gwyn y wlad, annibyniaeth unochrog (UDI) oddi ar Brydain yn 1965 a datganwyd gweriniaeth yno yn 1970.

Ar ôl rhyfel herwfilwrol hir daeth Robert Mugabe, arweinydd ZANU (PF), yn arlywydd y wlad (gweler isod), yn 1980.

Daearyddiaeth[golygu]

Prif erthygl: Daearyddiaeth Simbabwe.

Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn gorwedd ar wastatir uchel, dros 3,300' (1000m) i fyny ar gyfartaledd. Mae llawer o'r tir yn safana.

Gwleidyddiaeth[golygu]

Rhaniadau gweinyddol[golygu]

Rhennir Simbabwe yn wyth talaith a dwy ddinas â statws taleithiol. Is-rennir y taleithiau hynny yn 59 ardal a 1,200 ardal ddinesig.

Taleithiau ac ardaloedd Simbabwe

Mae'r taleithiau'n cynnwys:

Ardaloedd: gweler Ardaloedd Simbabwe

Ardaloedd dinesig: gweler Ardaloedd dinesig Simbabwe

Economi[golygu]

Prif erthygl: Economi Simbabwe.

Demograffeg[golygu]

Prif erthygl: Demograffeg Simbabwe.

Mae mwyafrif helaeth y bologaeth yn bobl Bantŵ. Ceir yn ogystal lleiafrif o bobl o dras Ewropeaidd ac Asiaidd, ond mae eu nifer wedi gostwng yn sylweddol mewn canlyniad i'r sefyllfa gwleidyddol diweddar.

Yn ôl cyfansoddiad 2013, mae gan Simbabwe 16 iaith swyddogol: Saesneg, iaith arwyddion a 14 iaith Affricanaidd; y pwysicaf ohonynt yw Ndebele a Shona.

Gweler hefyd[golygu]