Asiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Asiaid yw'r term cyffredinol am drigolion cyfandir Asia. Er hynny, mae cryn amrywiaeth o wlad i wlad o ran pwy yn union y cyfeirir atynt fel Asiaid. Yn yr Unol Daleithiau mae'r diffiniad yn un cymharol eang, yn cynnwys pobl o Dde Asia, Dwyrain Asia a De-ddwyrain Asia, ond heb gynnwys pobl o'r Dwyrain Canol fel rheol, er bod y rhan fwyaf o'r Dwyrain Canol hefyd yn rhan o gyfandir Asia.

Yng ngwledydd Prydain a rhai lleoedd eraill fel Awstralia, mae'r diffiniad ar gyfer dadansoddiad poblogaeth yn un llawer mwy cyfyng, gan gyfeirio yn bennaf neu yn unig at bobl o Dde Asia (India, Pacistan, Bangladesh a Sri Lanka).

LocationAsia.png Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato