Kazan’

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kazan'
Gweriniaeth Tatarstan
Kazana Krievija.png
Lleoliad Kazan'
Flag of Kazan (Tatarstan).png
Coat of Arms of Kazan (Tatarstan) (2004).png
Daearyddiaeth
Arwynebedd 425.2 km²
Uchder uwchben lefel y môr m
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2010) 1,143,535
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) 1,110,000
Gwleidyddiaeth
Maer Ilsur Metshin

Prifddinas Gweriniaeth Tatarstan a dinas wythfed fwyaf Rwsia o ran poblogaeth yw Kazan' (Rwsieg Казань / Kazan', Tatareg Qazan, Mari Osun). Lleolir yn nwyrain Rwsia Ewropeaidd, ar aber Afon Volga ac Afon Kazanka, 800 km i'r dwyrain o Moskva.

Hanes[golygu]

Tybir i'r ddinas gael ei sefydlu ym 1005 gan Fwlgariaid y Volga. Er nad oes tystiolaeth eglur am ddyddiad ei sefydlu, mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu i safle kremlin y ddinas gael ei anheddu yn yr unfed ganrif ar ddeg. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y ddinas mewn brut yn dyddio i 1177. Fel rhan o'r Llu Euraidd, daeth Kazan' yn ganolfan fasnachol a gwleidyddol o bwys. Ar ôl cwymp y Llu Euraidd, roedd yn brifddinas i Khanaeth Kazan a ffurfiwyd ym 1437 neu 1438. Ar ôl brwydr i gadw ei hannibyniaeth yn erbyn Rwsia, cipiwyd gan y Rwsiaid o dan Ifan IV ym 1552. Cafodd ei difrodi'n ddifrifol yn ystod Gwrthryfel Pugachev ym 1774. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth yn ganolfan addysg gyda sefydliad Prifysgol Wladwriaethol Kazan ym 1804. Bu Lenin yn astudio yn y brifysgol yn y 1880au a'r 1890au. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd, mae'r ddinas wedi diwygio: agorwyd system metro ym mis Awst 2005, a chwplhawyd mosg mwyaf Rwsia Qolsharif o fewn kremlin Kazan yn yr un flwyddyn.

Poblogaeth[golygu]

Mae poblogaeth y ddinas yn gymysgedd bron cyfartal o Rwsiaid a Tatariaid.

Pensaernïaeth[golygu]

Ychwanegwyd Kremlin Kazan' at restr Safleodd Treftadaeth y Byd UNESCO ym 2000. Mae Mosg Qolsharif yn ei dominyddu.

Addysg[golygu]

Mae Prifysgol Wladwriaethol Kazan ymysg prifysgolion hynaf Rwsia. Llofnodwyd ei siarter sefydlu gan Tsar Alexander I ar 5 / 17 Tachwedd 1804. Roedd y matemategydd Nikolay Lobachevsky yn rheithor o'r brifysgol o 1827 tan 1846, pryd chwaraeodd y brifysgol rôl bwysig mewn datblygiad geometreg ddi-Ewclidaidd. Dafganfuwyd yr elfen rwtheniwm yn Kazan gan Karl Klaus ym 1844, ac roedd y brifysgol yn flaenllaw yn hanes cemeg organig diolch i waith Aleksandr Butlerov, Nikolay Zinin a Vladimir Markovnikov. Gweithiodd yr ieithydd Jan Baudouin de Courtenay, a ddyfeisiodd cysyniad y ffonem, yn Kazan o 1874 tan 1883. Ymysg cyn-fyfyrwyr enwog Prifysgol Kazan y mae'r nofelydd Lev Tolstoy, y gwleidydd a chwyldroadwr Vladimir Lenin a'r bardd Velimir Khlebnikov.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: