Jan Baudouin de Courtenay
Ieithydd a Slafegydd o Wlad Pwyl oedd Jan Niecisław Baudouin de Courtenay (1 / 13 Mawrth 1845 - 3 Tachwedd 1929). Fe'i hadwaenir heddiw yn bennaf am ddyfeisio damcaniaeth y ffonem, term a fathwyd ganddo.
Gweithiodd am ran fwyaf ei yrfa ym mhrifysgolion Ymerodraeth Rwsia, yn Kazan (1874-83), Yuryev (Tartu heddiw) (1883-93), Kraków (1893-99) a St Petersburg (1900-18). Ym 1919 dychwelodd i Wlad Pwyl, a oedd wedi ennill ei hannibyniaeth yn yr un flwyddyn, i weithio fel athro prifysgol yn Warsaw, lle gweithiodd tan ei farwolaeth ym 1929.
Cafodd ei waith ar y ffonem effaith sylweddol ar ieithyddiaeth yr ugeinfed ganrif fel sail i nifer o fframweithiau ffonolegol. Roedd ymysg y ieithyddion cyntaf i roi blaenoriaeth i ieithyddiaeth syncronig, yr astudiaeth o ieithoedd heb ystyried eu hanes, ac roedd ei waith yn ddylanwad cryf ar strwythuriaeth fel y'i datblygwyd gan Ferdinand de Saussure.