Urbino

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Palazzo Ducale, Urbino

Dinas yn nwyrain yr Eidal yw Urbino. Mae'n un o ddwy brifddinas talaith Pesaro-Urbino yn rhanbarth Marche. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 15,441.

Saif y ddinas 485 medr uwch lefel y môr, gyda muriau o'i hamgylch. Yr adeilad pwysicaf yw'r Palazzo Ducale, sy'n dyddio o'r 15fed ganrif. Yn yr adeilad yma, ceir yr amgueddfa Galleria Nazionale delle Marche, lle ceir gweithiau megis 'La Muta' (Raffael), 'Veduta della Città Ideale' (Piero della Francesca) a'r 'Swper Olaf' (Titian). Sefydlwyd y brifysgol yn 1506. Dynodwyd canol hanesyddol Urbino yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1998.

Pobl enwog o Urbino [golygu]

Cysylltiad allanol [golygu]