Titian
Arlunydd Eidalaidd oedd Tiziano Vecelli, mwy adnabyddus fel Titian (c. 1487 – 27 Awst 1576). Ystyrir ef yn un o arlunwyr pwysicaf y Dadeni.
Ganed Titian yn Pieve di Cadore, pentref yn y Dolomitau tua 190 km i'r gogledd o Fenis. Bu'n ddisgybl i Gentile Bellini ac yna i'w frawd, Giovanni. Dylanwad pwysig arall arno oedd Giorgione (c. 1477 - 1510).
Tua 1508, roedd Giorgione a Titian yn gyfrifol am waith ffresco ar y Fondaco dei Tedeschi yn Fenis. Yn 1511, arluniodd Titian waith ffresco yn y Scuola del Santo yn Padua. Yn 1516, daeth yn arlunydd swyddogol Gweriniaeth Fenis.
Yn 1532, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ef yn uchelwr. Yn y blynyddoedd 1530-40 bu'n gweithio yn Urbino. Yn 1545-46 bu yn Rhufain, ac yn 1548-1551 yn llys yr ymerawdwr yn Augsburg. Wedi marwolaeth Siarl, bu'n gweithio i Philip II, brenin Sbaen. Claddwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari yn Fenis.
Gweithiau[golygu]
- Fenws Urbino a Flora (Titian) yn yr Uffizi yn Fflores
- Esgyniad Mair (Titian) a Madonna Pesaro yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari yn Fenis
- Portread o Clarissa Strozzi yn y Gemäldegalerie, Berlin