Gwengamp

Oddi ar Wicipedia
Tu mewn i Gapel y forwyn, Eglwys Gadeiriol Gwengamp

Tref a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Llydaw yw Gwengamp (Ffrangeg: Guingamp. Saif yn département Aodoù-an-Arvor. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 7,693.

Mae ysgol Diwan yno, ac ysgol ddwyieithog ers 1981. Derbyniodd cyngor y dref y siarter ieithyddol Ya d'ar brezhoneg yn 2008, ac mae 15.2% o'r disgyblion cynradd yn cael addysg ddwyieithog.

Cynhelir gŵyl ddawns ryngwladol Saint-Loup yma bob mis Awst.