Verona

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dinas yn rhanbaeth Veneto yng ngogledd yr Eidal yw Verona. Saif yr hen ddinas a chanol y ddinas fodern tu mewn i ddolen o Afon Adige ger Llyn Garda.

Ym wreiddiol roedd Verona, neu Veronia, yn eiddo i'r Euganei, ond bu raid iddynt ei hildio i'r Cenomani tua 550 CC. Tua 300 CC meddiannwyd dyffryn Afon Po gan y Rhufeiniaid. Daeth Verona yn colonia Rufeinig yn 89 CC, ac yn municipium yn 49 CC.

Roedd y ddinas mewn safle strategol bwysig, lle roedd nifer o briffyrdd yn cyfarfod. Gorchfygodd Stilicho y Visigothiaid dan Alaric yma yn 403. Yn 489, cipiodd y Gothiaid y ddinas, ac adeiladodd Theodoric ei balas yno. Yn 569 cipiwyd hi gan Alboin, brenin y Lombardiaid.

Enwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO oherwydd y nifer fawr o adeiladau hanesyddol yno, o'r cyfnod Rhufeinig ac o'r Canol Oesoedd. Yr amffitheatr Rufeinig yw'r drydedd yn yr Eidal o ran maint. O'r cyfnod diweddarach, ystyrir y Basilica di San Zeno Maggiore (1123-1135) yn un o'r enghreifftiau gorau o bensaerniaeth Romanesg. Creybwyllir ei thŵr gan Dante yn ei Divina Commedia. Ceirnifer o eglwysi nodedig eraill yma hefyd.

Yr Arena.

Pobl enwog o Verona[golygu]

Yn Verona y lleolwyd stori Romeo a Juliet yn nrama William Shakespeare, er fod y fersiynau cynharaf o'r stori yn rhoi'r lleoliad yn Siena.

Golwg banoramig o'r ddinas o Castel San Pietro.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: