Corfu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pontikonisi a mynachlog Vlaheraina

Ynys oddi ar arfordir gorllewinol Gwlad Groeg yw Corfu (Groeg: Κέρκυρα, Kérkyra). Saif ym Môr Ionia, a hi yw'r ail-fwyaf o'r Ynysoedd Ionaidd. Y brifddinas yw dinas Corfu.

Ym mytholeg Groeg, cysylltir yr ynys a Poseidon, duw y môr. Meddiannwyd yr ynys gan nifer o bwerau cyn iddi uno a Gwlad Groeg yn 1864. Enwyd hen ddinas Corfu yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2007.