Murmansk
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Murmansk (Rwseg: Му́рманск). Saif yn yr Arctig, ar benrhyn Kola, ac mae'n borthladd pwysig. Hi yw'r ddinas fwyaf yn yr Arctig; roedd y boblogaeth yn 2007 yn 317,500.
Sefydlwyd y ddinas yn Hydref 1916 fel Romanow-na-Murmane (Романов-на-Мурмане). Yn fuan wedi Chwyldro Chwefror 1917, newidiwyd yr enw i Murmansk. Er ei bod yn yr Arctig, mae dŵr y môr yn gymharol gynnes yma, fel nad yw'r harbwr yn rhewi yn y gaeaf. Mae Murmansk a maesdref Seweromorsk yn ganolfan bwysig i lynges Rwsia ac i'w llynges o longau torri rhew, yn cynnwys llongau niwclar.