Berberiaid

Oddi ar Wicipedia
Berberiaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Mathllwyth, Afroasiatic peoples Edit this on Wikidata
Poblogaeth24,000,000 Edit this on Wikidata
CrefyddSunni, cristnogaeth, iddewiaeth edit this on wikidata
GwladwriaethMoroco, Algeria, Niger, Mali, Libia, Bwrcina Ffaso, Tiwnisia, Mawritania, Yr Aifft Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnig yng Ngogledd Affrica yw'r Berberiaid. Hwy yw trigolion brodorol yr ardal o Ogledd Affrica i'r gorllewin o ddyffryn Afon Nîl ac i'r gogledd o Afon Niger. Ieithoedd brodorol y Berberiaid yw'r ieithoedd Berber, sy'n gangen o'r ieithoedd Affro-Asiaidd. Erbyn heddiw, mae llawer o'r Berberiaid yn Arabeg eu hiaith, ond mae rhwng 14 a 25 miliwn o siaradwyr yr ieithoedd Berber yn byw yng Ngogledd Affrica, y rhan fwyaf yn Algeria a Moroco, ond hefyd mewn rhannau eraill o'r Maghreb a thu hwnt.

Kabylie yw'r enw Berber am diriogaeth y Berberiaid yn y Maghreb. Defnyddir yr enw weithiau i olygu tiriogaeth draddodiadol y Berberiaid yn ei chyfanrwydd - ac felly'n cynnwys rhannau mawr o Foroco ac Algeria a darn o Tiwnisia - ond am resymau gwleidyddol mae'n tueddu i gael ei gyfyngu i'r rhan o Algeria sy'n gadarnle i'r Berberiaid heddiw.

Enw llawer o'r Berberiaid arnynt eu hunain yw Imazighen (unigol Amazigh) neu amrywiad o hyn, efallai'n golygu "y bobl rydd" ond mae amheuaeth ynglŷn â hyn. Enw'r Rhufeiniaid ar rai o'r Berber oedd y "Mazices", oedd a'r ystyr "dynion rhydd" yn ôl Leo Africanus. Daw'r gair "Berber" o'r Arabeg.

Berber yn Tiwnisia

Ymosodiadau ar Gymru[golygu | golygu cod]

Yn y 16g a’r 17g cododd Syr Thomas Mostyn o ardal Llandudno bedwar tŵr ar arfordir gogledd Cymru fel mannau gwylio, rhag ymosodiadau y Berberiaid (neu'r 'Barbari') o Ogledd Affrica a'r Twrc. Dyma'r pedwar: Tŵr Bryniau (neu 'Cadair Freichiau Nain'), Cadair y Rheithor (Llandrillo yn Rhos), Bryn Tŵr (Abergele) a Thŵr Chwitffordd.

Felly, roedd gan Deulu Mostyn bedwar tŵr i gadw golwg ar fôr-ladron Barbari ac roedd yn bosib anfon neges o'r naill i'r llall (drwy gynnau coelcerth, rhan amlaf) pan oedd angen. Er hynny, does yna ddim tystiolaeth bod ‘Môr-ladron Barbari’ wedi ymosod ar Ogledd Cymru.

Berberiaid enwog[golygu | golygu cod]