Ieithoedd Berber

Oddi ar Wicipedia
Ieithoedd Berber
Enghraifft o'r canlynolteulu ieithyddol Edit this on Wikidata
MathIeithoedd Affro-Asiaidd Edit this on Wikidata
Rhan oieithoedd di-diriogaethol Ffrainc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysNorthern Berber, Western Berber, ieithoedd Twareg, Eastern Berber, Numidian, Guanche Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 17,000,000
  • cod ISO 639-2ber Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Defnyddir y term ieithoedd Berberaidd am nifer o ieithoedd yn perthyn i deulu yr ieithoedd Affro-Asiaidd, a siaredir yn bennaf yn y Maghreb, gogledd Affrica gan y Berberiaid.

    Ar un adeg ieithoedd Berberaidd yn cael ei siarad o Foroco yn y gorllewin i Ddiffeithwch Libia yn y dwyrain. Ildiodd yr ieithoedd hyn dir yn raddol yn sgîl y concwest Arabaidd yn y 6g. Eu cadarnleodd erbyn heddiw yw Moroco a rhannau o Algeria. Ceir ychydig o siaradwyr Berbereg yng ngorllewin Tiwnisia yn ogystal. Mae rhai pobl yn dal i siarad tafodiaith Ferberaidd ynysig yn ngwerddon Siwa, gorllewin Yr Aifft.

    Lleoliadau yr ieithoedd Berberaidd yng ngogledd Affrica

    Llên a diwylliant[golygu | golygu cod]

    Am ganrifoedd roedd llenyddiaeth Ferberaidd yn llenyddiaeth lafar yn bennaf. Mae'n gyfoethog mewn chwedlau llên gwerin ac mae ganddi draddodiad barddol hynafol sy'n dal i flodeuo heddiw. Un o feirdd mwyaf nodedig yr iaith Ferberaidd yw'r Berber o Algeria, Si Muhand U M'hand (tua 1845 - 1905).

    Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

    Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.