Abd El-Kader

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Abd El-Kader, portread gan Ange Tissier, 1852. Amgueddfa Versailles.

Emir a swltan Algeriaidd o dras Berberaidd, diwinydd Swffi, gwleidydd ac arweinydd y gwrthsafiad yn erbyn gwladychiad Algeria gan Ffrainc, llenor ac athronydd, a ystyrir yn arwr cenedlaethol yn ei wlad enedigol oedd Abd El-Kader neu Abdelkader (Arabeg: عبد القادر الجزائري 'Abd al-Qādir al-Djazā'irī, Abd el-Kader Algeriad) (ganed 6 Medi 1808 ger Mascara yn Algeria - bu farw 26 Mai 1883 yn Damascus, Syria).

Ar ôl goresgyniad dinas Alger (Algiers) gan luoedd Ffrainc, etholwyd Abd El-Kader yn emir i'w harwain gan lwythau Berber ardal Oran, yng ngogledd-orllewin Algeria. Gyda dyfalbarhad a dawn filwrol anghyffredin, arweiniodd yr Algeriaid mewn rhyfel herfilwrol hir yn erbyn byddin Ffrainc, a barhaodd o 1832 hyd 1847. Yn 1834 gorfododd y Cadfridog Ffrengig Desmichels i arwyddo cytundeb yn ei gydnabod fel arweinydd ac ym Mehefin 1835, enillodd fuddugoliaeth fawr ar y fyddin Ffrengig ym mrwydr Makta.

Ond tyfodd nerth y Ffrancod yn Algeria a bu rhaid i Abd El-Kader ffoi i'r gorllewin a chael noddfa ym Moroco. Oddi yno dechreuodd ymladd rhyfel jihad yn erbyn y Ffrancod yn enw Islam. Ildiodd i'r Ffrancod yn 1847 a chafodd ei anfon i Ffrainc lle y'i dalwyd fel carcharor hyd 1852 pan gafodd ei ryddhau ar orchymyn yr ymerodr newydd, Louis Napoleon. Cafodd ei alltudio i Bursa (Twrci) ac oddi yno symudodd i ddinas Damascus yn Syria lle bu farw yn 1883.

Fel llenor ac athronydd, fe'i cofir yn bennaf am ei hunangofiant cyfriniol y Qitab al-Mawaqif ('Llyfr yr Arosfeydd').

Cerdd Gymraeg iddo[golygu]

Abd El-Kader yw un o'r ychydig ffigyrau Arabaidd ac Islamig sydd wedi ysbrydoli bardd Cymraeg. Cyfansoddodd Walter Davies (Gwallter Mechain) (1761-1849) gyfres o englynion iddo sy'n ei foli fel arweinydd y frwydr am ryddid cenedlaethol yn Algeria. Dyma'r ddau englyn agoriadol:

Codwm i Abd-el-Cader—bwriedir,
Mewn brad a chreulonder;
Ond mab Ismael, hael o'i her,
I fyny deil ei faner!
Ai'n deilwng i hudolion—anonest,
Dan enw Cristnogion,
Rheibio gwlad (brad ymhob bron)
Y dewr a'r hen frodorion?[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwallter Mechain, 'Abd-el-Cader', Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1, gol. D. Silvan Evans (Caerfyrddin, 1868).