Zinedine Zidane

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Zinedine Zidane

Cyn-beldroediwr Ffrengig yw Zinedine Yazid Zidane, llysenw Zizou (ganed 23 Mehefin 1972).

Ganed ef yn Marseille, i deulu Kabyle yn wreiddiol o Algeria. Bu'n chwarae i glybiau Bordeaux, Juventus a Real Madrid. Roedd yn un o aelodau amlycaf tîm cenedlaethol Ffrainc pan enillasant Gwpan y Byd yn 1998 a Phencampwriaeth Ewrop yn 2000. Chwaraeodd yng ngêm derfynol Cwpan y Byd yn 2006 yn erbyn yr Eidal, ond gyrrwyd ef o'r cae gan y dyfarnwr. Enwyd ef yn Chwaraewr y Flwyddyn gan FIFA dair gwaith; Ronaldo yw'r unig chwaraewr arall i ennill y teitl yma deirgwaith.