Quechua

Oddi ar Wicipedia
Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Quechua Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Quechua (Runa simi)
Siaredir yn: Ariannin, Bolifia, Brasil, Colombia, Ecwador, Periw, Tsile
Parth: De America
Cyfanswm o siaradwyr: 10 miliwn
Safle yn ôl nifer siaradwyr: 83
Achrestr ieithyddol: Cetshwaidd
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Periw a Bolifia
Rheolir gan: Academia Mayor de la Lengua Quechua
Codau iaith
ISO 639-1 qu
ISO 639-2 que
ISO 639-3 que (generig)
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Un o ieithoedd brodorol De America yw Quechua (Runa simi yn Quechua). Iaith yr Incas a siaredid yn ucheldiroedd canol yr Andes oedd Quechua. Fe'i siaredir gan eu disgynyddion heddiw ym Mheriw, Bolifia ac Ecwador yn bennaf, a hefyd yn ne Colombia, gogledd-orllewin yr Ariannin a gogledd Tsile. Gyda tua 10 miliwn o siaradwyr, Quechua yw'r fwyaf o ieithoedd brodorol De America. Mae Quecha yn iaith ddodiadol iawn yn hytrach nag ymasiadol.

Ymadroddion cyffredin[golygu | golygu cod]

Napaykullayki: Shw mae
Wuynus diyas: Bore da
Ratukama: Hwyl fawr
Allichu: Os gwelwch yn dda
Sulpayki: Diolch
Arí: Ie
Mana: Nage

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Dde America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato