Ieithoedd brodorol yr Amerig

Oddi ar Wicipedia

Ieithoedd brodorol De America[golygu | golygu cod]

Mae ieithoedd brodorol De America yn perthyn i Dde America, yr Antilles a rhannau deheuol o Ganolbarth America. Erbyn heddiw mae nifer ohonynt yn ieithoedd marw.

Daethant i Dde America wrth i frodorion Americanaidd fudo o'r gogledd i'r de. Mae tua 600 o'r ieithoedd brodorol hyn yn hysbys i ni heddiw. Maent yn amrywio'n sylweddol yn ieithyddol ac mae'n debyg fod yr ieithoedd yn rhannu ffynhonnell gyffredin ond mae ieithyddion yn anghytuno ar y berthynas ieithyddol rhyngddynt, perthynas sy'n eithaf cymhleth.

Amcangyfrir fod tua 12 miliwn o bobl yn siarad yr ieithoedd brodorol, yn bennaf yn yr Andes a rhannau o Amasonia. Yr iaith fwyaf o lawer yw Quechua a'i thafodieithoedd.

Ieithoedd brodorol Canolbarth America[golygu | golygu cod]

(Ieithoedd Meso-Americanaidd)

Ieithoedd brodorol Gogledd America[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.