Iaith ddodiadol

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Iaith sy'n llunio geiriau drwy ychwanegu elfennau morffolegol (morffemau) at ei gilydd yw iaith ddodiadol. Mae pob un o'r morffemau yn mynegi un ystyr neu nodwedd ramedegol. Mae enghreifftiau o ieithoedd dodiadol yn cynnwys y Dyrceg a'r Hwngareg. Mae'r cysyniad wedi'i seilio ar ddosbarthiad o ieithoedd yn ôl eu teipoleg morffolegol a ddatblygwyd gan August von Schlegel yn gynnar yn y 19eg ganrif. Yn ôl y dosbarthiad hwn, mae ieithoedd yn rhannu'n dri math, analytig, synthetig a dodiadol. Ychwanegwyd pedwerydd math, iaith polysynthetig, yn ddiweddarach.

Gwelir system ddodiadol mewn ffurfdroadau enwol yn y Dyrceg. Dyma ffurfiau'r enw adam 'dyn':

unigol lluosog
goddrychol adam adam-lar
genidol adam-ın adam-lar-ın
derbyniol adam-a adam-lar-a
gwrthrychol adam-ı adamları

Mae'n hawdd gweld bod pob morff yn cyfleu un ystyr neu nodwedd ramadegol. Mae adam yn golygu 'dyn'; mae -lar- yn cyfleu'r lluosog; -ın yn cyfleu'r cyflwr genidol; -a y cyflwr derbyniol; a -ı y cyflwr gwrthrychol. Does dim morff felly sy'n cyfuno dwy neu fwy o'r ystyron hyn. Mae'r system hon yn cyferbynnu'n gryf â'r hyn a geir mewn ieithoedd synthetig megis y Lladin neu'r Rwsieg.

Nid yw'r Gymraeg yn arddangos llawer o nodweddion dodiadol, ond gwelir agweddau o system dodiadol mewn ffurfiau megion dynionach neu petheuach, sy'n cynnwys tair morffem sy'n hawdd i'w rhannu oddiwrth ei gilydd, y bôn dyn, y ffurfdroad lluosog -ion neu -au a'r olddodiad dirmygus -ach.

Offer personol