Iaith synthetig
Iaith â chymhareb forffem-y-gair uchel yw iaith sythetig. Mewn ieithoedd synthetig mae tueddiad cryf i gyfansoddi geiriau o ddau neu fwy o forffemau.
Mae dau brif fath o ieithoedd synthetig:
- ieithoedd dodiadol lle mae morffemau yn glynu wrth ei gilydd,
- ieithoedd ymasiadol lle mae morffemau yn ymasio i'w gilydd.
Cynnwys |
Ieithoedd synthetig a dadelfennol [golygu]
Gwrthgyferbynnir ieithoedd synthetig yn aml ag ieithoedd dadelfennol. Mae'n fwy cywir tybio bod ieithoedd ar raddfa, ac ieithoedd dadelfennol gaeth (gydag un morffem-y-gair) ar un ochr a'r ieithoedd polysynthetig (lle defnyddir un gair i gyfleu gwybodaeth brawddeg gyfan Cymraeg) ar yr ochr arall. Mae ieithoedd synthetig yn dueddol o fod rhywle ynghanol y raddfa hon. Mae nifer o ieithoedd synthetig yn y byd ac mae'r mwyaf cyffredin ohonynt yn ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel Groeg, Lladin, Almaeneg, Sbaeneg, Rwsieg, Tsieceg yn ogystal â nifer o ieithoedd cynfrodorol America fel Navajo, Nahuatl, Mohawk a Quecha. Mae pob iaith Indo-Ewropeaidd yn synthetig i ryw raddau ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn llawer mwy dadelfennol na'u ffurfiau hŷn. Er enghraifft, mae'r Gymraeg wedi colli'r holl ffurfdroadau cyflwr a oedd yn bresenol yn y Frythoneg ac mae'r ieithoedd Romáwns hefyd wedi colli holl gyflyrau Lladin. Mae rhai o'r ieithoedd Germanaidd fel Saesneg ac Afrikaans bron yn analytig â dim ond pedair ffurf ferfol, reolaidd yn Saesneg, a dim ond dwy mewn Afrikaans.
Ffurfiau synthetig [golygu]
Mae yna sawl ffordd y gall iaith fod yn synthetig.
Deilliol [golygu]
Yma unir wahanol fathau o forffemau (enwau, berfau, ayyb.) i greu geiriau newydd. Er enghraifft:
- Almaeneg: Aufsichtsratsmitgliederversammlung ⇒ "Ar-golygfa-cyngor-gyda-aelodau-yn casglu" sy'n golygu "cyfarfod aelodau y bwrdd goruchwylio".
- Groeg: υπερχοληστερολαίμια ⇒ "droslawer/colesterol-uchel-gwaed+-ia(ffurfdro)" sy'n golygu "hypercholesterolemia".
- Poleg: przystanek ⇒ "ar-ochr-sefyll-bach" sy'n golygu "arhosfa bysiau".
- Saesneg: antidisestablishmentarianism ⇒ "yn-erbyn-gorffen-sefydliadu-cyflwr-argymell-syniadaeth".
- Rwsieg: спасибо ⇒ "Gwna Dduw dy achub" sy'n golygu "diolch".
Perthynol [golygu]
Yma unir gwreiddyn gair â morffemau rhwymedig i ddangos swyddogaeth ramadegol. Er enghraifft:
- Eidaleg: comunicandovele ⇒ "eich cyfathrebu-rheini(benywaidd, lluosog)" sy'n golygu "(wrth) eu cyfathrebu (benywaidd, lluosog) i chi".
- Sbaeneg: escribiéndomelo ⇒ "ysgrifennu-ef-fi" sy'n golygu "(wrth)) ei ysgrifennu i mi".
- Nahuatl: ocaltizquiya ⇒ "yn barod-(hi)-ef-trochu-basai" sy'n golygu "basai hi wedi'i drochu".
- Ffinneg: juoksentelisinkohan ⇒ "rhedeg-mudiad cyflym-dibynnol-fi-cwestiwn-achosol" sy'n golygu "Sgon i os dylwn i redeg o gwmpas (heb reswm)".