Sgwrs:Iaith synthetig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Tydw i ddim yn deall y frawddeg hon: "Mae hi'n fwy cywir i dybio fod ieithoedd yn bodoli ar raddfa..." Oes gan rywun ffagl? Llywelyn2000 16:53, 30 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Hmmm, dwi'n credu ei bod hi fod meddwl rhywbeth fel; "it's more correct to conceive languages existing on a scale...". Mae'n swnio braidd yn llet'wyth... Glanhawr 16:55, 30 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
++Unrhyw syniadau am gyfieithiad mwy naturiol? Glanhawr 17:09, 30 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Na dim syniad; mae'r ystyr Saesneg i mi hefyd yn niwlog. Ar adegau fel hyn, a phan na fedra i gyfieithu, yna.... ni fyddaf yn cyfieithu. Gadael y frawddeg allan fyddai orau yn hytrach na chreu dryswch. Beth wyt ti'n ei feddwl? Llywelyn2000 00:08, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Mae'n eitha pwysig i ystyr y paragraff, beth nad wyt ti'n deall am hyn? Glanhawr 01:01, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Fi sy'n dwp, mae'n rhaid. Ond tydy'r frawddeg Saesneg ddim yn gwneud synnwyr i mi. 'On a scale' - ym mha ffordd? Llywelyn2000 12:21, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno, ma'r frawddeg yn swnio'n lletchwyth. Fallai mae "continuum" yn air gwell. Ydy'r gair 'na'n gnweud mwy o synnwyr? Fallai bod y gair yn gam-arweiniol oherwydd does dim graddfa yn bodoli ond mae yna wahanol gyfraddau - hynny yw gall iaith fod yn eithaf analytig ond hefyd fod yn synthetig. Yn nhermau syml, iaith synthetig yw iaith sy'n ffurfdroi geiriau, iaith analytig yw iaith sydd yn defnyddio geirynnau i gyfleu'r un ystyr. Felly mae iaith fel Saesneg yn defnyddio ychydig o ffurfdroadau ac felly'n synthetig: listen, listen-s, listen-ing, listen-ed. Mae'r Gymraeg yn llawer yn fwy synthetig gyda thua 20 ffurf ferfol yn iaith lafar. Mae Tsieinëeg yn analytig oherwydd does dim ffurfdroi o gwbl. Y broblem gyda'r diffiniadau hyn yw gallai iaith gydag ond dwy ffurf ferfol gael ei grwpio gydag iaith gyda 100 ffurf ferfol - y dwy'n cael ei grwpio fel ieithoedd synthetig. Felly yn lle cael y diffiniadau llym: 1 mpw = analytig, 1+ mpw = synthetig: mae'n well i feddwl am y gyfradd y mae ieithoedd yn synthetig:
Tsienëeg - analytig llym - 1 mpw (hefyd â thueddau dodiadol gyda'r geiriau cyfansawdd)
Saesneg - eithaf analytig - 1-3 mpw (hefyd â thueddau ymasiadol gyda'r ffurfdroadau negyddol ar ferfau)
Japaneg - eithaf synthetig - dodiadol (hefyd â thueddau analytig)
Swmereg - synthetig iawn! - polysynthetig (hefyd â thueddau mwy analytig a dodiadol)
Ydy hyn yn gwneud mwy o synnwyr nawr? Dyw ieithoedd ddim yn cwympo i mewn i gategorïau taclus.Glanhawr 13:12, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diddorol iawn. Ydy 'ystod eang...' neu 'cryn amrywiaeth rhwng y ddau begwn eithaf....' yn ddefnyddiol? Hynny yw, yr hyn sydd ei eisiau yw geirfa syml, sy'n cyfleu'r peth yn syml a chlir. Ond, mi wn, gyda phethau technegol fel hyn ei bod yn goblyn o anodd. Dyna ein camp! Llywelyn2000 23:17, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Sa'i'n siŵr iawn, hmmm, ocê fallai'r peth gorau i'w wneud fydd i ti ysgrifennu'r frawddeg a wedyn fe welwn ni os cyflëith yr ystyr. Dyn ni ddim yn mynd i'r unman yn trafod a thrafod yr un frawddeg 'ma! Diolch Llywelyn. Glanhawr 00:11, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]