Iaith ddadelfennol

Oddi ar Wicipedia

(Ailgyfeiriad oddi wrth Iaith analytig)
Neidio i: llywio, chwilio

Iaith heb ffurfdroadau sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy defnyddio geirynnau neu drwy gystrawen neu ymadrodd mewn perthynas i eiriau eraill yw iaith ddadelfennol neu iaith analytig. Mewn ieithoedd dadeflennol mae'r morffemau yn rhydd, hynny yw, mae pob morffem yn air ar wahân.

[golygu] Enghreifftiau

Dosberthir ieithoedd fel naill ai dadelfennol neu synthetig. Gwnëir hyn drwy roi mesuraid morffem-y-gair (mpw o'r Saesneg morpheme-per-word) ar iaith. Hynny yw, mae ieithoedd dadelfennol yn dueddol o gael geiriau wedi'u cyfansoddi o un morffem. Mae unrhyw iaith sydd â mpw yn fwy nag 1 yn iaith synthetig. Dangosir morffemau isod:

  • Yn y gair Cymraeg merch dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair gymhareb mpw o 1:1.
  • Ond mae gan y gair gwyddoniaethau dri morffem (gwyddon-, iaeth, -au) ac felly mae gan y gair hwn gymhareb mpw o 3:1.

Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel Fietnameg, Thaieg a Thseinaeg yn dueddol o fod yn ddadelfennol. Yn Nhseinaeg dim ond un morffem sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir ffurfdroadau i fynegi cyflwr ar enwau neu amser ar ferfau, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar gystrawen i ddangos y berthynas rhwng y goddrych a gwrthrych:

明天 朋友 生日 蛋糕
明天 朋友 生日 蛋糕
míngtīan de péngyou huì wèi zuò ge shēngri dàn'gāo
yfori fi (Geiryn israddol) cyfaill bydd i fi gwneud (erthygl) (dosbarthydd geiriau) penblwydd teisen
"Yfori bydd fy nghyfeillion yn gwneud teisen penblwydd imi."

Gellir dweud bod dim morffoleg gan ieithoedd dadelfennol.

[golygu] Gweler hefyd

Offer personol