Olddodiad

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y term ieithyddol yw hon; gweler hefyd Olddodiad rhyngrwyd.

Mewn ieithyddiaeth, morffem sy'n dilyn y gwreiddyn i fynegi ystyr gramadegol neu darddiadol yw olddodiad. Fel yn achos y dodiaid eraill, ni all olddodiaid sefyll ar eu pennau eu hunain. Maen nhw felly yn forffemau clymedig.

Ceir olddodiaid mewn sawl iaith. Enghraifft o'r olddodiad yn y Gymraeg yw -gar (mewn hawddgar) neu -odd (mewn gwelodd).[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer).
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.