Newark, New Jersey
| Dinas Newark | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn New Jersey | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | New Jersey |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor Maerol |
| Maer | Cory Booker |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 67.3 km² |
| Uchder | 9 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 281,402 (Cyfrifiad 2006) |
| Dwysedd Poblogaeth | 4,400 /km2 |
| Metro | 18,818,536 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | EST (UTC-5) |
| Cod Post | 07100-07199 |
| Gwefan | http://www.ci.newark.nj.us/ |
Newark yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith New Jersey, a'r ganolfan weinyddol ar gyfer Swydd Essex. Mae gan Newark boblogaeth o 281,402, gan ei gwneud y bwrdeisdref fwyaf yn New Jersey a'r 65fed ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Mae Newark hefyd yn gartref i nifer o gorfforaethau mawrion, megis Prudential Financial.
Fe'i lleolir tua 8 milltir (13 km) i'r gorllewin o Manhattan a 2 filltir (3.2 km) i'r gogledd o Ynys Staten. Oherwydd ei lleoliad ger Cefnfor yr Iwerydd ym Mae Newark mae Porthladd Newark wedi datblygu i fod yn brif borthladd mewnforio ym Mae Newark ac yn Harbwr Efrog Newydd. Ynghyd ag Elizabeth, mae Newark yn gartref i Maes Awyr Rhyngwladol Newark Liberty, sef y prif faes awyr cyntaf i wasanaethu ardal fetropolitanaidd Efrog Newydd.
Gefeilldrefi Newark[golygu]
Dolenni Allanol[golygu]
- (Saesneg) Gwefan Dinas Newark