Chennai
Chennai (hen enw: Madras) yw prifddinas talaith Tamil Nadu, yn ne-ddwyrain India, a chanolfan weinyddol Rhanbarth Chennai. Er mai'r enw Tamil Chennai yw'r enw swyddogol heddiw mae llawer o bobl yn y ddinas ac yn India ei hun yn dal i ddefnyddio'r hen enw adnabyddus, Madras. Ei phoblogaeth yw tua 6 miliwn (1999).
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Mae Madras yn ddinas a phorth prysur ar Arfordir Coromandel ar Fae Bengal. Cafodd ei sefydlu yn 1639 gan Gwmni Prydeinig Dwyrain India ar dir a roddwyd gan Raja Chandragiri, yr olaf o reolwyr Vijayanagar Hampi. Tyfodd y ddinas o gwmpas Caer St Siôr sydd bellach yn gartref i swyddfeydd y llywodraeth daleithiol.
Sefydlwyd Prifysgol Madras yn 1857.
Economi a diwylliant [golygu]
Mae Chennai yn ganolfan masnach a chludiant. Chennai yw prif ganolfan adeiladu ceir India; fe'i gelwir weithiau "Detroit India" o'r herwydd. Dim ond ychydig o atyniadau hanesyddol sydd yn y ddinas ond mae ganddi ddiwylliant bywiog a diddorol.
Un o ganolfannau busnes pwysicaf Chennai yw Parry's Corner, pencadlys cwmni a sefydlwyd gan y Cymro Thomas Parry ar ddiwedd y 18fed ganrif.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Ashtalakshmi Kovil
- Parry's Corner
- Eglwys gadeiriol
- Gorsaf Central
- Neuadd Victoria
- Ravishwarar
- Stadiwm Jawaharlal Nehru
Enwogion [golygu]
- R. K. Narayan (1906-2001), awdur
- Padma Lakshmi (g. 1970), actores
Dolenni allanol [golygu]
- Gwefan swyddogol llywodraeth Rhanbarth Chennai
- Gwefan swyddogol Corfforaeth Chennai
- Ynglyn â Chennai
- Dinas Chennai
- Hanes Madras
- Erthyglau'r hanesydd S. Muthiah ar Chennai, gyhoeddwyd yn The Hindu
- Daearyddiaeth Chennai
- Tywydd Chennai heddiw