Volgograd

Oddi ar Wicipedia
Volgograd
Mathdinas fawr, tref/dinas, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Volga Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,004,763 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1589 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAndrej Kosolapov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Coventry, Ostrava, Kemi, Liège, Dijon, Torino, Port Said, Chennai, Hiroshima, Reinickendorf, Chemnitz, Ruse, Jilin City, Kruševac, Tiraspol, Płońsk, Sandanski, Orlando, Florida, Olevano Romano, Cleveland, Toronto, Chengdu, Yerevan, İzmir, Ortona, Cwlen, Constanța, Qujing, Kyiv Edit this on Wikidata
NawddsantAlecsandr Nefski Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirVolgograd Urban Okrug Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd859 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr80 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Volga Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.7086°N 44.5147°E Edit this on Wikidata
Cod post400001–400138 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAndrej Kosolapov Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle treftadaeth ddiwylliannol yn Rwsia Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganZasekin, Roman Vasilevich Alferev, Ivan Nashchokin Edit this on Wikidata
Manylion

Dinas yn ne Rwsia, ar lan orllewinol Afon Volga, yw Volgograd (Rwseg: Волгоград, Volgograd), gynt Tsaritsyn (Rwseg: Царицын) (1598–1925), wedyn Stalingrad (Rwseg: Сталинград) (1925–61). Canolfan weinyddol Oblast Volgograd yw hi.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y ddinas yn 1589 fel caer lle mae Afon Tsaritsa yn ymuno ag Afon Volga i amddiffyn ffin ddeheuol Rwsia. Fe'i cipiwyd ddwywaith mewn gwrthryfeloedd gan Cosaciaid, unwaith yng ngwrthryfel Stenka Razin yn 1670 ac unwaith yng ngwrthryfel Yemelyan Pugachev yn 1774. Daeth yn borthladd ac yn ganolfan fasnachol o bwys yn ystod y 19g.

Yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia, roedd ymladd ffyrnig am Tsaritsyn. Fe'i meddiannwyd gan luoedd y Bolsieficiaid yn 1918 ond ymosodwyd arni gan luoedd y Rwsiaid Gwynion. Bu bron iddi gwympo, ond achubwyd y ddinas i'r Cochion gan y Cadfridog Pavel Sytin a chadeirydd y pwyllgor milwrol lleol, Josef Stalin. Gan i Stalin gymryd rhan yn yr ymdrech i'w hamddiffyn yn y rhyfel cartref, ailenwyd y ddinas ar ei ôl fel 'Stalingrad' ("Dinas Stalin") yn 1925.

Yn y 1930au datblygodd Stalingrad fel canolfan diwydiant trwm a chanolfan cludo nwyddau. Chwaraeodd rôl allweddol yn yr Ail Ryfel Byd, pryd bu lluoedd Sofietaidd a Natsïaidd yn ymladd dros y ddinas am dros bum mis ym Mrwydr Stalingrad. Cafodd y ddinas ei difetha bron yn llwyr yn y frwydr, ond llwyddodd Byddin Goch y Sofietaidd i gadw gafael arni. Gwelir amddiffyniad Stalingrad fel trobwynt yn y rhyfel gan mai Stalingrad yw'r pwynt pellach i'r lluoedd Almaenig ei gyrraedd yn y dwyrain. Mewn cydnabyddiaeth o aberth y dinesyddion, rhoddwyd y teitl 'Dinas-Arwr' iddi yn 1945. Newidiwyd yr enw unwaith eto yn 1961 i 'Volgograd' ("Dinas y Volga"), fel rhan o raglen ddileu cwlt Stalin Krushchev.

Golygfa dros Volgograd o fryn Mamayev Kurgan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.