Bae Bengal

Oddi ar Wicipedia
Bae Bengal
Mathcorff o ddŵr, bae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor India Edit this on Wikidata
GwladIndia, Bangladesh, Sri Lanca, Myanmar Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,172,000 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNagapattinam Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15°N 88°E Edit this on Wikidata
Map

Bae o siâp trionglog yng ngogledd-ddwyrain Cefnfor India sy'n gorwedd rhwng isgyfandir India (India a Sri Lanca) i'r gorllewin a Myanmar ac Ynysoedd Andaman a Nicobar (a rhan o dde Gwlad Tai yn ôl rhai diffiniadau) i'r dwyrain yw Bae Bengal. Gellid dweud fod ei derfyniad deheuol yn cael ei ddiffinio gan linell ddychmygol rhwng Penrhyn Dondra yn Sri Lanca a phen gogleddol ynys Sumatra. Fe'i enwir ar ôl rhanbarth Bengal. Fe'i nodweddir gan ddau fonsŵn tymhorol mawr sy'n effeithio ar fordeithio a bywyd yr arfordir, sef y monsŵn gaeaf gogledd-ddwyreinol a'r monsŵn haf de-orllewinol.

Lleoliad Bae Bengal

Mae pen gogleddol y bae yn fas, yn rhannol am ei fod yn derbyn llawer o ddeunydd afonol a gludir gan Afon Ganga, sy'n llifo i'r bae trwy sawl aber (Aberoedd y Ganga) yn ardal y Sundarban, yng Ngorllewin Bengal (India) a Bangladesh. Pysgota yw'r prif ddiwydiant traddodiadol gan bobl yr arfordir.

Mae gan Fae Bengal arwynebedd o tua 2,172,000 km². Mae sawl afon fawr – Afon Ganga, Afon Brahmaputra, Afon Ayeyarwady, Afon Godavari, Afon Mahanadi, Afon Krishna ac Afon Kaveri – yn llifo i mewn iddo. Mae'r prif borthladdoedd ar ei lannau yn cynnwys Cuddalore, Chennai, Kakinada, Machilipatnam, Vishakapatnam, Paradip, Kolkata, Chittagong, a Yangon.

Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato