Afon Brahmaputra

Oddi ar Wicipedia
Afon Brahmaputra
Mathafon drawsffiniol Edit this on Wikidata
LL-Q9610 (ben)-Titodutta-ব্রহ্মপুত্র নদ.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAssam Edit this on Wikidata
GwladIndia, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Bangladesh, Nepal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.20072°N 91.74683°E Edit this on Wikidata
AberBae Bengal Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Lhasa, Afon Nyang, Afon Dibang, Afon Lohit, Afon Dihing, Afon Dhansiri, Afon Kopili, Myang Chu, Siyom, Afon Subansiri, Afon Kameng, Afon Manas, Gangadhar, Afon Torsa, Afon Teesta, Afon Jaldhaka, Afon Sankosh, Afon Lohit, Afon Buriganga, Afon Diphlu, Afon Raidāk, Afon Beki Edit this on Wikidata
Dalgylch651,334 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,900 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad19,500 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon fawr yn Asia sy'n llifo trwy sawl gwlad yw Afon Brahmaputra, a elwir hefyd yn Tsangpo-Brahmaputra (Assameg ব্ৰহ্মপুত্ৰ Brôhmôputrô; Bengaleg ব্রহ্মপুত্র নদ Bromhoputro; Hindi ब्रम्हपुत्र Bramhaputra "Mab Brahma"; Tibeteg ཡར་ཀླུངས་གཙང་པོ་ Yar klung gtsang po / Yarlung Tsangpo).

O'i tharddle ger Llyn Manasarovar yn ne-orllewin Tibet fel Afon Yarlung Tsangpo, mae'n llifo ar draws rhan ddeheuol y wlad honno i dorri trwy'r Himalaya i Arunachal Pradesh lle mae'n cael ei hadnabod fel Afon Dihang. Mae hi'n llifo i gyfeiriad y de-orllewin trwy Ddyffryn Assam fel y Brahmaputra ac yna i gyfeiriad y de trwy Fangladesh fel Afon Jamuna lle mae'n cael ei chroesi gan Pont Jamuna. Ym Mangladesh mae'n ymuno ag un o ganghennau Afon Ganges i ffurfio delta anferth ar lan Bae Bengal. Gyda hyd o tua 1,800 milltir (2,900 km), mae'r afon yn llwybr fasnach pwysig ac yn dyfrhau llawer o dir, yn arbennig yn ei rhannau isaf ar isgyfandir India. Am flynyddoedd lawer bu ei tharddle a'i chwrs trwy Dibet yn ddirgelwch i Ewropeaid, ac ni ddarganfuwyd y Yarlung Tsangpo tan 1884-86; defnyddir yr enw Afon Tsangpo-Brahmaputra weithiau mewn canlyniad. Ym Mangladesh mae'r Brahmaputra yn ymuno ag Afon Ganga. Cyn cyrraedd Bae Bengal mae'r ddwy afon unedig hyn yn ffurfio delta y Sunderbans, un o gadarnleoedd olaf y teigr ar yr isgyfandir.

Mae rhannau isaf yr afon yn gysegredig gan Hindwiaid. Yn y gwanwyn mae llif yr afon yn chwyddo gan eira toddedig o'r Himalaya a cheir llifogydd mawr sy'n gallu bod yn drychinebus, er eu bod hefyd yn ffrwythlonni'r tir ac felly'n bwysig i amaeth yn yr ardal.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]