Afon Mahanadi
Oddi ar Wicipedia
.
Afon fawr yn nwyrain canolbarth India yw Afon Mahanadi. Ystyr y gair Sansgrit a Hindi mahanadi yw 'afon fawr' (maha 'mawr' + nadi 'afon'). Ei hyd yw tua 900 km ac mae'n llifo trwy daleithiau Chhattisgarh, rhan o Madhya Pradesh ac Orissa i gyrraedd Bae Bengal ger dinas Cuttack yn Orissa.
Mae'r dinasoedd a threfi ar ei glannau yn cynnwys Sambalpur, Cuttack, Sonepur, Birmaharajpur, Subalaya, a Boudh.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- Afon Mahanadi: delweddau lloeren gan NASA.