Karachi
| Karachi | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Sindh, Pacistan | |
| Gwlad | Pacistan |
| Ardal | Sindh |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Canolfan y Ddinas, Tref Gulshan |
| Maer | Syed Mustafa Kamal |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 3,530 km² |
| Uchder | 26 troedfedd (8 medr) m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 18,000,000 (Cyfrifiad 2009) |
| Dwysedd Poblogaeth | 5,099 /km2 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | PST (UTC+5) |
| Gwefan | http://www.karachicity.gov.pk |
Karachi yw'r ddinas fwyaf ym Mhacistan ac un o'r deg o ddinasoedd mwyaf poblogedig yn y byd.
Wedi'i lleoli ar Fôr Arabia fymryn i'r gogledd o'r man lle mae Afon Indus yn rhedeg i'r môr ar ddiwedd ei thaith hir o fynyddoedd y Karakoram, Karachi yw prif borthladd Pacistan.
Yn ddinas fodern, datblygodd yn gyflym fel porthladd yn ystod y 19eg ganrif. Yn 1947 daeth yn brifddinas y Bacistan newydd a llifodd nifer fawr o ffoaduriaid i mewn i ddinas oedd eisoes yn llawn i'r ymylon. Gwellhaodd y sefyllfa i raddau pan symudwyd y brifddinas i Islamabad yn 1959 a chychwynwyd ar raglen o adeiladu bwrdeistrefi o gwmpas y ddinas yn y 1960au.
Karachi yw prif borthladd filwrol y wlad. Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch taleithiau amaethyddol Sind a Punjab yn pasio trwy'r borth. Mae diwylliannay'n cynnwys y diwydiant brethyn, cemegau, a cheramics.
Un o'r ychydig atyniadau pensaernïol amlwg yn y ddinas yw Mazar-e-Quaid, beddrod Jinnah, sefydlwr Pakistan.