Mumbai
Oddi ar Wicipedia
| Mumbai | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Maharashtra ac India | |
| Gwlad | India |
| Ardal | Maharashtra |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Corfforaeth Bwrdeisdrefol Mumbai Fwyaf |
| Maer | Shubha Raul |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 603.4 km² |
| Uchder | 26 troedfedd (8 medr) m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 13,922,125(Cyfrifiad 2008) |
| Dwysedd Poblogaeth | 21,880 /km2 |
| Metro | 20,870,764 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | IST (UTC+5:30) |
| Gwefan | http://www.mcgm.gov.in |
Mumbai (Marathi: मुंबई, Mumbaī, IPA:[ˈmumbəi], hen enw: Bombay) yw prifddinas talaith Maharashtra yng ngorllewin India a phrif borthladd a chanolfan economaidd India. Dyma'r ddinas mwyaf boblog yn India a'r ail ddinas fwyaf boblog yn y byd, gyda phoblogaeth amcangyfrifol o 13 miliwn. Lleolir Mumbai ar arfordir gorllewinol India a cheir yno harbwr sy'n naturiol ddwfn. Mae Mumbai yn ymdrin â dros hanner cargo morol yr India.
Mae'n borthladd pwysig iawn ac yn ddinas sydd wedi gweld tyfiant economaidd aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf; serch hynny anwastad yw dosbarthiad y buddianau economaidd a nodweddir y ddinas gan gyferbyniaethau trawiadol rhwng y da eu byd a'r tlodion niferus.
Mae gan y ddinas nifer o adeiladau bric coch o gyfnod y Raj, e.e. y brif orsaf reilffordd yng nghanol y ddinas. Mae "Porth India", yr heneb a godwyd i nodi ymweliad y brenin Siôr V yn 1911, yn symbol o'r ddinas.
Dros y dŵr ym Mae Mumbai mae nifer o henebion Bwdhaidd hynafol i'w cael ar Ynys Elephanta.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Castella de Aguada
- Llyfrgell David Sassoon
- Mosg Haji Ali
- Neuadd Cowasji Jehangir
- Raj Bhavan
- Tŵr India
- Tŵr Rajabai
- Tŷ Jinnah
- Tŷ Nariman
[golygu] Enwogion
- Dom Moraes (1938-2004), awdur
- Persis Khambatta (1948-1998), actores
- Anil Kapoor (g. 1959), actor
- Shilpa Shetty (g. 1975), actores
