Brethyn

Oddi ar Wicipedia
Brethyn
Delwedd:Mantas artesanales en la ciudad de Salta.jpg, Karachi - Pakistan-market.jpg, Fabric076 8K Color.png
Mathdeunydd, arteffact, nwydd, endid artiffisial, cynnyrch Edit this on Wikidata
Deunyddfiber Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cynhyrchu brethyn gwlan ym Melin Teulu Leach, Mochdre (Llun gan Geoff Charles)

Math o ddeunydd sydd wedi'i wehyddu neu ei lawbannu o wlân yw brethyn, er y gall hefyd fod wedi'i wneud o gotwm neu ddeunydd arall.[1] Byddai'n cael ei gynhyrchu fel rhan o'r diwydiant gwlân - un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru yn ystod y 18g - ac roedd yn cael ei ddefnyddio at nifer fawr o ddibenion, yn cynnwys dillad, blancedi, addurniadau, a glanhau. Gelwid blanced a wnaed o frethyn yn 'garthen'. Mae gwisgoedd traddodiadol Cymreig hefyd fel arfer wedi'u gwneud o frethyn.

Mae'r term 'brethyn cartref' yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun diwylliannol i gyfeirio at y lleol a'r gwerinol, a hynny yn gadarnhaol.

Mae'r defnydd cynharaf o'r gair 'brethyn', wedi'i sillafu 'uredhyn', yn dod o'r 13g.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Geiriadur Prifysgol Cymru". welsh-dictionary.ac.uk. Cyrchwyd 2018-09-18.